S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Cacen caws siocled

Cynhwysion

  • 100g bisgedi "chocolate chip"
  • 50g menyn
  • 250g caws hufennog
  • 25g o siwgr eisin
  • 140g past siocled cnau cyll
  • ½ llwy fwrdd powdr coco
  • 75g saws siocled
  • 30ml hufen dwbl
  • 40g cnau cyll

Dull

  1. Blitsiwch y bisgedi mewn prosesydd bwyd.
  2. Ychwanegwch fenyn wedi toddi yna blitsiwch eto.
  3. Arllwyswch y bisgedi mewn i 2 tun "non stick". Mae angen papur pobi i leinio'r 2 tun.
  4. I wneud y cynnwys gosodwch y caws hufen a siwgr eisin mewn bowlen a chwipiwch efo Chwisg trydanol.
  5. Ychwanegwch y past siocled a phowdr coco a chwipiwch nes mae'n feddal.
  6. Gorchuddiwch y gwaelod bisgedi efo'r cymysgedd gan ddefnyddio cyllell pallet.
  7. Gorchuddiwch a gadael i oeri am 3 awr.
  8. I wneud y topping, gosodwch yr hufen a siocled mewn bowlen gwydr dros sosban o dwr mudferw.
  9. Gadwch i doddi a rhannwch rhwng y 2 cacen caws. Yna ychwanegwch y cnau cyll ar ben.
  10. Gadwch i oeri yn yr oergell am 1 awr.

Rysáit gan Catrin Thomas, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Pwdins Prynhawn Da

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?