S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Pwdin pinafal

Cynhwysion

  • 220g tun pinafal mewn sudd
  • 90ml rỳm
  • 50g menyn meddal
  • 50g siwgr castir
  • 1 ŵy
  • 50g blawd codi
  • 2 ½ llwy fwrdd triog
  • 100ml hufen

Dull

  1. Draeniwch y tun pinafal, ond cadwch y sudd i un ochr.
  2. Gosodwch y binafal mewn bowlen efo 75ml o rỳm a gadwch i marandi.
  3. Draeniwch ac ychwanegwch y sudd pinafal.
  4. Cynheswch y ffwrn i wres 180°c / Ffan 160°c / Nwy 4.
  5. Defnyddiwch dun pobi pwdin Efrog (yorkshire pudding) gyda 4 rhan iddo a gosodwch bapur gwrthsaim yn y tun.
  6. Chwyrliwch y menyn a'r siwgr, ac yna'n raddol ychwanegwch y ŵy, blawd a 1 ½ llwy fwrdd o rỳm.
  7. Rhannwch y triog rhwng y tun gyda phinafal ac yna llenwch efo'r cytew teisen. Pobwch am 15 munud yna gadwch i orffwys am tua 10 munud.
  8. Yna gosodwch ar blatiau, cyfunwch weddill y triog efo'r sudd a brwsiwch drosodd am sglein.
  9. Chwyrliwch weddill y rỳm a'r hufen a gwaenwch.

Rysáit gan Gareth Richards, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Pwdins Prynhawn Da

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?