S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Pannacotta marmalêd

Cynhwysion

  • 600ml llaeth
  • 150ml hufen dwbl
  • 100g siwgr castir
  • 2 lwy fwrdd marmalêd oren
  • 3 deilen gelatin
  • 8 eirin gwlanog
  • 1 bwnsh teim
  • ychydig olew olewydd
  • ychydig mêl
  • 100g granola

Dull

  1. Berwch y llaeth, hufen, siwgr a marmalêd.
  2. Tynnwch i ffwrdd y gwres, ychwanegwch y dail gelatin.
  3. Arllwyswch y cymysgedd mewn i wydrau a setiwch yn yr oergell am tua 4 awr.
  4. Gwaredwch y garreg o'r eirin gwlanog a thorrwch mewn chwarteri, gosodwch mewn tun pobi.
  5. Ychwanegwch teim, mêl + olew a rostiwch am tua 15 munud ar dymheredd 180°c.
  6. Gadwch i oeri a gweinwch ar ben pannactotta efo sudd.
  7. Gorffennwch trwy arllwys arno'r granola.

Rysáit gan Shane James, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?