S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Penfras mewn marmalêd a salad

Cynhwysion

  • 4 ffiled pysgod penfras
  • 1 llwy fwrdd marmalêd oren
  • 50g menyn
  • 1 oren
  • 1 llwy fwrdd mwstard dijon
  • 4 ffenigl neu 4 courgette
  • 1 pecyn dil
  • pinsiad halen
  • 1 lemwn
  • 2 winwns coch

Dull

  1. Cynheswch ychydig olew mewn ffrimpan.
  2. Gwasgarwch damaid o fenyn ar un ochr y cod a ffriwch ar ochr y menyn nesa mae'n euraidd.
  3. Fflipiwch drosodd, ychwanegwch fenyn, marmalêd + sudd oren i'r pan a rostiwch ar dymheredd 180°c am tua 3 munud.
  4. Torrwch y fennel a winwns. Cymysgwch efo'r dil, sudd lemwn a halen.
  5. Gweinwch salad.
  6. Tynnwch allan y pysgod i weini.
  7. Yna gorffennwch drwy arllwys drosodd y saws marmalêd.

Rysáit gan Shane James, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?