S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cymorth

Camdriniaeth

Adnoddau i genfnogi pobl, yn cynnwys plant a phobl ifanc, sydd wedi dioddef trais neu sydd eisiau dweud am droseddu treisiol neu rhywiol o unrhyw fath.

  • Byw heb ofn

    Gwybodaeth a chyngor dwyieithog, 24 awr y dydd. Gall helpu drwy gefnogi pobl sydd â phrofiad o gamdriniaeth yn y cartref neu drais rhywiol, yn ogystal a chyfeirio eraill i wasanaethau cynghori, cefnogaeth frys, mannau diogel a gwybodaeth am eu hawliau a'u hopsiynau.

    0808 80 10 800

    livefearfree.gov.wales

  • Cymorth i Ferched Cymru

    Cefnogaeth a help ymarferol ar draws Gymru i ferched a phlant sy'n dioddef trais yn y cartref. Dros dauddeg pump o grwpiau lleol Cymorth i Ferched ar draws y wlad. Defnyddiwch llinell Byw Heb Ofn i gysylltu.

    0808 80 10 800

    www.welshwomensaid.org.uk

  • RASASC Gogledd Cymru

    Mae'r Canolfan Trais a Chamdriniaeth Rywiol yna i helpu'r sawl sydd wedi dioddef o gamdriniaeth o'r fath yng Ngogledd Orllewin Cymru. Gwasanaeth ffôn cyfyngedig, ond gadewch neges ac fe gynigir cefnogaeth.

    0808 80 10 800

    www.rasawales.org.uk

  • Stepping Stones Gogledd Cymru

    Gwasanaeth cefnogi a chwnsela yng Ngogledd Cymru i bobl sydd wedi dioddef o gamdriniaeth rhywiol.

    steppingstonesnorthwales.co.uk

  • Childline Cymru

    Os ydych dan 18 ac yn poeni am unrhyw beth, gallwch gael help unrhyw awr o'r dydd neu nos drwy ffonio Childline Cymru am ddim, neu drwy fynd i'w gwefan am fwy o wybodaeth. Mae yna oedolion yna i'ch helpu chi sortio unrhyw broblem yn eich bywyd.

  • NSPCC

    Mae'r NSPCC yng Nghymru yna er mwyn gwneud yn siŵr bod plant yn cael y cyfle gorau mewn bywyd. Mae ganddynt ganolfannau gwasanaeth yng Ngogledd a De Cymru sy'n cynnig cymorth i blant, i deuluoedd ac i weithwyr proffesiynol. Maent yn cefnogi rhieni a theuluoedd i ofalu am eu plant ac yn darparu cymorth therapiwtig i helpu plant i symud ymlaen o gamdriniaeth. Llinell gymorth yn o gystal â gwybodaeth pellach ar gael ar y gwefan.

    0808 800 5000

    www.nspcc.org.uk

  • New Pathways

    Mae New Pathways yn cynnig help, cefnogaeth a chwnsela i bobl sydd wedi cael eu treisio neu eu cam-drin yn rhywiol. Mae'n rhedeg un allan o'r ddau Ganolfan Cyfeirio Ymosodiad Rhywiol yng Nghymru, ac ar wahân i'r llinell gymorth sydd yn agored i bawb, maent yn cynnig cwnsela ar draws De Cymru.

    01685 379310

    www.newpathways.org.uk

  • Victim Support

    Mae'r elusen yma yn helpu pobl sydd wedi dioddef oherwydd troseddu eraill, ac mae ganddynt dimau lleol i'ch helpu os mae hynny'n wir i chi.

    08 08 16 89 111

    www.victimsupport.org.uk

  • Ynys Sâff

    Mae Ynys Sâff yn ganolfan atgyfeirio ymosodiadau rhywiol yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd lle mae ystod o weithwyr proffesiynol profiadol ac arbenigol yn rhoi help, cefnogaeth a chyngor i ddynion, menywod, plant a phobl ifanc, yn dilyn ymosodiad rhywiol yng Nghaerdydd a'r Fro.

    02920 335795

    https://cavuhb.nhs.wales/our-services

  • The Survivors Trust Cymru

    Rhwydwaith sy'n ceisio rhoi cefnogaeth a grym i'r sawl sydd wedi dioddef camdriniaeth neu drais rhywiol, drwy gynnig llais a help drwy gyfoedion.

    0808 801 0818

    www.survivorstrustcymru.org

  • Comisiynydd Plant Cymru

    Mae'r Comisiynydd yn gwarchod hawliau plant, ac yn edrych ar sut mae penderfyniadau cyrff cyhoeddus yng Nghymru, yn cynnwys Llywodraeth Cymru, yn effeithio ar hawliau plant.

    www.complantcymru.org.uk

  • Men's Advice Line

    Cyngor a chymorth i ddynion mewn perthynas difrïol.

    0808 801 0327

    www.mensadviceline.org.uk

  • Cymorth Teulu Sir Drefaldwyn

    Gwasanaeth sy'n cefnogi dynion, merched neu plant sy'n dioddef o drais yn y cartref yng Ngogledd Powys.

    01686 629114

    www.familycrisis.co.uk

  • Survivors UK

    Elusen sydd yna i helpu dynion sydd wedi cael eu camdrin yn rhywiol neu treisio. Gwefan gyda cefnogaeth glir, yn cynnwys webchat, i bob oedran.

    www.survivorsuk.org

  • Crimestoppers

    Cysylltwch a'r llinell yma'n gyfrinachol am unrhyw droseddu yn eich ardal.

    0800 555 111

    crimestoppers-uk.org

  • Sefydliad Lucy Faithfull

    Elusen sydd yna i amddiffyn plant. Cysylltwch â rhain mewn cyfrinachedd os ydych yn poeni am eich ymddygiad chi tuag at plant, neu ymddygiad eraill.

    0808 1000 900

    www.lucyfaithfull.org.uk

  • Y Samariaid

    Cefnogaeth emosiynol gyfrinachol dros y ffôn ar gael gan y Samariaid - unrhyw bryd, dydd neu nos. Mae hefyd gwasanaeth Gymraeg ar gael rhwng 7pm-11pm bob nos, drwy ffonio 0808 164 0123.

    116 123

    www.samaritans.org

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?