S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cymorth

Canser

Mae canser yn rhywbeth mae'r rhan fwyaf ohonom yn mynd i ddod ar draws ar ryw bwynt yn ein bywydau. Bob blwyddyn mae dros chwarter miliwn o bobl yn y Deyrnas Unedig yn canfod bod rhyw fath o ganser ganddynt. Mae canser y fron, yr ysgyfaint, y perfedd neu'r brostad yn cyfri am dros hanner o rain, er bod oddeutu 200 gwahanol fath.

Mae manylion y mudiadau a'r llinellau cymorth canlynol i'ch helpu os ydych chi neu rywun agos i chi angen cefnogaeth oherwydd effaith canser ar eich bywyd.

  • The Brain Tumor Charity

    Elusen canser yr ymennydd syn'n gallu rhoi mwy o wybodaeth arbenigol a chefnogaeth I'r cyflwr yma.

  • Tenovus

    Mae Tenovus yn cynnig gwasanaeth dwyieithog dros y ffôn a chwnsela i'r sawl sy'n byw gyda chanser, eu teuluoedd a'u gofalwyr. Gwybodaeth ar sut i osgoi canser, profion, triniaeth, gofal a gwasanaethau cefnogi.

  • Macmillan Cancer Support

    Mae Macmillan Cancer Support yn brwydro i wella ansawdd bywyd y sawl sy'n byw gyda chanser. Gwybodaeth glir ar y wefan, yn cynnwys arbenigedd Cancer BACKUP, sydd wedi uno a Macmillan yn ddiweddar. Cefnogaeth hefyd trwy'r llinell gymorth, yn ogystal â'r 2000 o nyrsys hyfforddedig sy'n arbenigo mewn canser.

  • CancerHelp

    Mae CancerHelp yn wasanaeth gwybodaeth cynhwysfawr i'r sawl sy'n byw gyda chanser, ac yn rhan o Cancer Research UK.

    www.cancerresearchuk.org/about-cancer

  • Galw IECHYD Cymru

    Mae Galw IECHYD Cymru yn llinell cymorth sy'n darparu gwybodaeth ar iechyd a gwasanaethau iechyd ar hyd a lled Cymru. Mae'r llinell wedi staffio gan nyrsys profiadol, 24 awr y diwrnod.

  • Patient.info

    Gwybodaeth helaeth o safon am bynciau iechyd, sy'n cael ei ddarparu gan ddoctoriaid a nyrsys mewn ymgynghoriad fel arfer.

    www.patient.info

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?