S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cymorth

Cyflyrau genynnol

Gwybodaeth a chefnogaeth am ystod o gyflyrau genynnol etifeddol. Cydnabyddir bod dros 6,000 o gyflyrau, gyda mwy yn cael eu darganfod bob wythnos. Maent yn amcangyfrif fod 1 allan o bob 25 plentyn yn y DU yn cal eu geni gyda cyflwr o'r fath.

  • Genetic Alliance UK

    Mae'r gwybodaeth yma yn cynnwys manylion cefnogaeth i deuluoedd i ystod eang o gyflyrrau genynnol, yn cynnwys rhai sydd heb diagnosis pendant.

    www.geneticalliance.org.uk

  • Genetic Disorders UK

    Llinell gymorth a rhwydwaith o gefnogaeth i bobl sydd yn byw gyda cyflwr genynnol.

    0800 987 8987

    www.geneticdisordersuk.org

  • National Organsiation for Rare Diseases

    Gwybodaeth am bob math o gyflyrau anarferol, gan gynnwys manylion cymorth i gleifion.

    rarediseases.org

  • Galw IECHYD Cymru

    Mae Galw IECHYD Cymru yn llinell cymorth sy'n darparu gwybodaeth ar iechyd a gwasanaethau iechyd ar hyd a lled Cymru. Mae'r llinell wedi staffio gan nyrsys profiadol, 24 awr y diwrnod.

  • Ymddiriedolaeth Ffibrosis Codennog

    Un o'r prif fudiadau yn y Deyrnas Unedig i helpu'r sawl sy'n byw gyda ffibrosis codennog , eu teuluoedd a'u gofalwyr. Maent yn cynnig bob math o help a chyngor ymarferol am y cyflwr, trwy'r gwefan a'r llinell gymorth. Maent hefyd gydag arbenigwyr cynghorol fel bod pobl yn gallu cael y gofal gorau phosib yn eu hardal nhw.

    0300 373 1000

    www.cysticfibrosis.org.uk

  • Guts UK

    Cefnogaeth i unigolion a theuluoedd sydd gyda cyflwr sy'n effeithio'r coluddion, yn cynnwys cyflyrau etifeddol.

    gutscharity.org.uk

  • Cyswllt Teulu Cymru

    Mae'r mudiad yma'n cynnig cefnogaeth, cyngor a gwybodaeth i deuluoedd sydd gyda phlant anabl.

    0808 808 3555

    www.cafamily.org.uk

  • Patient.info

    Gwybodaeth helaeth o safon am bynciau iechyd, sy'n cael ei ddarparu gan ddoctoriaid a nyrsys mewn ymgynghoriad fel arfer.

    www.patient.info

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?