S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cymorth

Canser y fron

Gwybodaeth, help pellach a chefnogaeth gyda canser y fron.

  • Bron Brawf Cymru

    Gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth am sgrinio am canser y fron yng Nghymru. Mae sgrinio'r fron ar gael yn rheolaidd i bob merch sydd rhwng 50 a 70 oed ac sy'n byw yng Nghymru. Bron Brawf Cymru sy'n rhoi rhaglen sgrinio'r fron y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (y GIG) ar waith yng Nghymru.

    www.breasttestwales.wales.nhs.uk

    Canolfan Sgrinio'r Fron De-ddwyrain Cymru 18 Heol yr Eglwys Gadeiriol Caerdydd CF11 9LJ Ffôn: (029) 2039 7222

    Canolfan Sgrinio'r Fron Gorllewin Cymru 24 Heol Alexandra Abertawe SA1 5DY Ffôn: (01792) 459988

    Canolfan Sgrinio'r Fron Gogledd Cymru Ffordd Maes Du Llandudno LL30 1QY Ffôn: (01492) 860888

    Canolfan Sgrinio'r Fron Gogledd-ddwyrain Cymru Rhodfa Ellice Parc Technoleg Wrecsam

    Wrecsam LL13 7YT

    Ffôn: (01492) 860888

  • Breast Cancer Now

    Un o'r prif elusennau sy'n cynnig cymorth, cefnogeth ac sy'n ymgyrchu dros pobl gyda canser y fron.

    0808 800 6000

    breastcancernow.org

  • Tenovus

    Mae Tenovus yn cynnig gwasanaeth dwyieithog dros y ffôn a chwnsela i'r sawl sy'n byw gyda chanser, eu teuluoedd a'u gofalwyr. Gwybodaeth ar sut i osgoi canser, profion, triniaeth, gofal a gwasanaethau cefnogi.

  • Macmillan Cancer Support

    Mae Macmillan Cancer Support yn brwydro i wella ansawdd bywyd y sawl sy'n byw gyda chanser. Gwybodaeth glir ar y wefan, yn cynnwys arbenigedd Cancer BACKUP, sydd wedi uno a Macmillan yn ddiweddar. Cefnogaeth hefyd trwy'r llinell gymorth, yn ogystal â'r 2000 o nyrsys hyfforddedig sy'n arbenigo mewn canser.

  • CancerHelp

    Mae CancerHelp yn wasanaeth gwybodaeth cynhwysfawr i'r sawl sy'n byw gyda chanser, ac yn rhan o Cancer Research UK.

    www.cancerresearchuk.org/about-cancer

  • Galw IECHYD Cymru

    Mae Galw IECHYD Cymru yn llinell cymorth sy'n darparu gwybodaeth ar iechyd a gwasanaethau iechyd ar hyd a lled Cymru. Mae'r llinell wedi staffio gan nyrsys profiadol, 24 awr y diwrnod.

  • Patient.info

    Gwybodaeth helaeth o safon am bynciau iechyd, sy'n cael ei ddarparu gan ddoctoriaid a nyrsys mewn ymgynghoriad fel arfer.

    www.patient.info

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?