S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cynhyrchu

S4C Masnachol

  • Y Gronfa Ddigidol

    Awst 2013 - Awst 2016

    Nod y gronfa yw cefnogi cynnyrch a gwasanaethau creadigol newydd ar draws llwyfannau, dyfeisiau a sianeli digidol, gyda'r amcan o gyfoethogi darpariaeth S4C i'r gwylwyr a chodi arian masnachol.

    Cafodd y gronfa ei sefydlu gydag arian masnachol a bydd yn anelu at fuddsoddi mewn prosiectau â photensial masnachol pan fo hynny'n briodol ac yn bosibl. Fodd bynnag, bydd gan y gronfa bortffolio cymysg o brosiectau - rhai â photensial masnachol a rhai sydd â gwerth cyhoeddus sy'n cyfrannu at wireddu strategaeth ddigidol S4C. Y disgwyl yw y bydd o leiaf 50% o'r arian sydd ar gael i'w fuddsoddi yn cael ei neilltuo ar gyfer prosiectau â photensial masnachol.

    Mae manylion llawn y gronfa ar gael i ddarllen a'u lawrlwytho trwy ddilyn y dolenni isod.

    Os oes prosiect gennych yr hoffech ei drafod cyn ei gyflwyno mae croeso i chi gysylltu Cronfa.Ddigidol@s4c.cymru

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?