S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cynhyrchu

Cwmwl - cyfundrefn comisiynu S4C

Mawrth 2023

Croeso i'r diweddariad ar gyfer porth cyflwyno cynnwys i S4C. Ail-gynlluniwyd hwn i ddangos syniad ar draws pob llwyfan gan gynnwys llinol.

Cwmwl yw'r porth ar-lein ar gyfer dilysu eich sgwrs gychwynnol gyda thîm comisiynu S4C ac mae'n caniatáu i gynhyrchwyr roi manylion llawn am y syniad(au) dan sylw. Lle mae mwy nag un prosiect rydym yn awgrymu eich bod yn eu cyflwyno ar wahân (oni bai eu bod wedi'u plethu).

Llenwch yr holl ddogfen a gall y crynodeb gynnwys dolenni at ddeciau pitch (os yw ar gael) neu unrhyw gyfryngau addas drwy ddefnyddio eich URL. Cofiwch mai dyma lle bydd pob chwaraewr allweddol yn cael mynediad at eich syniad ac rydym am i'r holl wybodaeth fod ar gael o fewn y porth ar-lein.

Gellir a dylid sicrhau bod costau a chyllidebau cychwynnol ar gael naill ai fel eitemau unigol o gynnwys neu fel prosiect cyflawn.

Mae porth Cwmwl yno i sicrhau bod eich syniadau cynnwys ar gael i'r holl dimau comisiynu, busnes a marchnata yn S4C.

I gynnig syniad newydd drwy CWMWL cliciwch yma

(Nid oes angen llenwi ffurflen cynnwys mwyach 7/3/23)

Os ydych yn mewngofnodi am y tro cyntaf, bydd angen i chi greu cyfrif Gweinyddwr ar gyfer eich cwmni, ac yna dilynwch y cyfarwyddiadau. Mae modd i gwmniau sydd eisioes a mynediad newid defnyddwyr o fewn y porth.

Am unrhyw gymorth, cysylltwch ag Adran Materion Busnes S4C

Tîm Comisiynu:

  • Elen Rhys - Pennaeth Adloniant ac Adloniant Ffeithiol
  • Gwenllian Gravelle - Pennaeth Sgriptio
  • Iwan England - Pennaeth Di-Sgript
  • Llinos Wynne - Pennaeth Dogfennau a Ffeithiol Arbenigol
  • Sioned Geraint - Comisiynydd Addysg a Phlant
  • Graham Davies - Pennaeth Chwaraeon
  • Sharen Griffith - Comisiynydd Cynnwys - Newyddion a Materion Cyfoes
  • Guto Rhun - Comisiynydd Cynulleidfaoedd Ifanc 16-24
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?