S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cynhyrchu

Pact a’r darlledwyr yn diweddaru canllawiau traws-ddiwydiannol yn unol â gofynion GDPR

Mae Pact a'r darlledwyr gwasanaethau cyhoeddus: BBC, Channel 4, Channel 5, ITV, MG ALBA, S4C, STV a UTV wedi diweddaru'r canllawiau diogelu data ar gyfer y diwydiant cynhyrchu teledu er mwyn adlewyrchu'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data [European General Data Protection Regulation] ('GDPR') a weithredir o dan Ddeddf Diogelu Data 2018 ('DDD').

Mae canllawiau traws-ddiwydiant wedi bod mewn lle ers 2010 ond maent bellach wedi eu hadolygu'n drylwyr a'u hamrywio i sicrhau eu bod yn rhoi eglurdeb digonol i gynhyrchwyr ar ofynion newydd y GDPR. Cyhoeddodd Pact y canllawiau yn Awst 2018 ac rydym nawr yn falch i gyhoeddi'r fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wefan S4C.

Mae'r canllawiau newydd wedi eu cynllunio er mwyn helpu cynhyrchwyr i ddeall y newidiadau ac i alluogi cynhyrchwyr i gydymffurfio â'u hymrwymiadau o dan y DDD, sydd yn nodi bod cwmnïau cynhyrchu yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn rheoli ac yn gwarchod data personol yn gywir ac yn unol â'r ddeddfwriaeth.

Mae dwy set o ganllawiau – canllaw trylwyr ar gyfer aelodau uwch y timoedd cynhyrchu/staff ac un arall ar gyfer criw. Mae'r canllawiau hyn yn trafod pob agwedd o ddiogelu data gan gynnwys casglu a rhoi mynediad i ddata personol a data categori arbennig, data troseddau, data plant, polisïau data, esemptiadau, ceisiadau gwrthrych am wybodaeth, a'r gofynion adrodd newydd i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG) mewn achos o golli neu dor-data.

Fe fydd Pact a rhai o'r darlledwyr yn cynnal digwyddiad i gynhyrchwyr ar 20fed o Dachwedd yn cynnwys cynrychiolydd o'r SCG yn siarad am y newidiadau i'r DDD a'r canllawiau. Gellir dod o hyd i fanylion pellach yma

Dwedodd John McVay, Prif Weithredwr Pact: "Mae'r canllawiau hyn yn deillio o wir gydweithio rhwng Pact a'r darlledwyr er mwyn sicrhau bod cynhyrchwyr y DU yn glir am eu cyfrifoldebau o dan GDPR. Fe fydd y digwyddiad sy'n cymryd lle ym mis Tachwedd yn darparu cymorth bellach i gynhyrchwyr fedru deall eu hymrwymiadau."

Ymgynghorwyd â'r SCG trwy gydol y broses o ddrafftio'r canllawiau ac roedd yr adborth yn ddefnyddiol er mwyn sicrhau bod y cyngor i'r cynhyrchwyr yn adlewyrchu gofynion y ddeddfwriaeth newydd yn gywir. Fe fydd Pact, y darlledwyr a'r SCG yn parhau i gyd-weithio er mwyn trafod canllawiau gwarchod data i'r dyfodol ar gyfer cynhyrchwyr.

Mae'r canllawiau Cymraeg a Saesneg newydd ar gael ar wefan Pact a gwefan S4C.

Diwedd.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?