Mae S4C wedi sicrhau hawliau i ddarlledu rhaglenni uchafbwyntiau o daith Tîm Rygbi Cymru i Dde Affrica ym mis Mehefin 2014.
Rydym yn gwahodd cwmnïau sydd â phrofiad o gynhyrchu rhaglenni chwaraeon i S4C i gynnig am y gwaith. Am fwy o fanylion, cliciwch yma.
Dyddiad Cau: 16:00 Dydd Mawrth 8 Ebrill 2014
Cwestiwn 1:
Pwy yw'r darlledwr cartref yn Ne Affrica?
Ateb 1:
Unwaith y bydd y cwmni cynhyrchu llwyddiannus wedi ei benodi mi fyddwn yn rhyddhau manylion cyswllt y darlledwr cartref. Gofynnir i chi beidio trio cysylltu gyda nhw ar hyn o bryd. Yr ydym wedi cael cadarnhad y bydd modd i chi dderbyn ffîd glan yn uniongyrchol oddi wrth y darlledwr cartref ond bydd cost ychwanegol o wneud hyn. Mi ddylech gyllidebu am hyn.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?