Amser ysgol pysgod bach
Mae'n ddiwrnod cynta'r tymor yn ysgol 'Dan Dŵr' ond mae un o'r disgyblion ar goll! Tybed all Jen a Jim, Capten Carys, Llew a Cyw helpu'r brifathrawes, Mrs Morfil ddod o hyd i'r creadur coll?
Amcanion Dysgu
Didoli a dosbarthu gwrthrychau drwy ddefnyddio un maen prawf (Dosbarth Derbyn)
Symud i gyfeiriadau penodol - ochr yn ochr ac ymlaen ac yn ôl (Dosbarth Derbyn)
Cyfrif hyd at 10 o wrthrychau'n ddibynadwy (Dosbarth Derbyn)
Deall a defnyddio'r cysyniad o 'un yn fwy' ac 'un yn llai' wrth chwarae (Meithrin)