Jen a Jim - rhaglen 14: Mw mw, me me
Mw mw, me me
Mae'n dawel ar y fferm heddiw - mae'n rhaid bod rhywun ar goll.
A all 'y llyfr pob dim' helpu Jen a Jim ddod o hyd i ba anifail sydd ar goll ?
Amcanion Dysgu:
- Cyfrif hyd at 10 o wrthrychau'n ddibynadwy (Dosbarth Derbyn)
- Defnyddio cyfrif i ddatrys problemau mathemategol syml wrth chwarae ac mewn sefyllfaoedd bob dydd (Meithrin)
- Deall a defnyddio cysyniad o 'un yn fwy' wrth chwarae (Meithrin)
- Cyfuno dau grŵp o wrthrychau er mwyn canfod 'faint sydd yna yn gyfan gwbl?' (Dosbarth Derbyn)