S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Stwnsh

Cwrdd â'r Criw

Lloyd, Heledd a Huw sy'n cyflwyno ac yn gapteniaid ar y timoedd, a s'dim un ohonynt yn hoff o golli!

Heledd

Wyt ti'n gystadleuol? Andros o gystadleuol. Dwi wedi bod yn chwarae pêl-droed, pêl-rwyd a hoci ers o'n i'n ifanc.

Pa sgiliau pêl-droed sydd gen ti? Dwi ddim yn medru gwneud keepy uppies. Ond dwi'n medru gwneud un tric - fflicio'r bêl i fyny o'r cefn efo fy nhroed.

Pwy yw'r chwaraewr pêl-droed gorau o'r tri ohonoch? Huw 100%

Pa chwaraewr proffesiynol sydd fwyaf tebyg i Tekkers ti?

Joe Allen, achos mae o'n gweithio'n galed ar y cae fatha fi yn trio cadw trefn ar Huw a Lloyd!

3 gair i ddisgrifio cyfres Tekkers? Hwyl, cyffrous a chystadleuol.

Lloyd

Wyt ti'n gystadleuol? Dwi wedi bod yn gystadleuol erioed. Dwi'n gweithio ar fod yn gollwr gwell!

Hoff dric neu sgil pêl-droed? (Fy hoff sgil yw) Cic ffug Thierry Henry, lle mae e'n siglo un goes ac yn gwthio'r bêl gyda'r un mae e'n sefyll arni. Y pêl-droediwr gorau a welodd yr Uwch Gynghrair erioed.

Pwy yw'r chwaraewr pêl-droed gorau o'r tri ohonoch? Cwestiwn twp – fi, wrth gwrs!

Tekkers pa chwaraewr proffesiynol sydd fwyaf tebyg i Tekkers ti? Dwi'n modelu fy sgiliau ar sgiliau'r chwaraewr gorau erioed – Thierry Henry

3 gair i ddisgrifio cyfres Tekkers? Cyflym, doniol, cystadleuol.

Huw

Wyt ti'n gystadleuol? Cystadleuol iawn ers talwm, a dwi'm isho colli i Heledd na Lloyd.

Mae Lloyd yn chwaraewr rygbi, ond oes ganddo sgiliau pêl-droed? Mae bod yn gyflym yn dda mewn unrhyw gamp, ond tydi cyflymder yn dda i ddim efo dwy droed chwith ;)

Hoff dric neu sgil pêl-droed? Round the world neu y Maradona 7.

Pwy yw'r chwaraewr pêl-droed gorau o'r tri ohonoch? Fi…yn amlwg!

Tekkers pa chwaraewr proffesiynol sydd fwyaf tebyg i Tekkers ti? Ronaldinho

3 gair i ddisgrifio cyfres Tekkers? Boncyrs, cystadleuol, swnllyd!

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?