S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Drama

Ar gael nawr

  • Cyfres newydd: Creisis

    Cyfres newydd: Creisis

    S4C, S4C Clic a BBC iPlayer

    Ar gael nawr ar S4C Clic

    Drama chwe rhan gynhyrfus, newydd sbon.

    Mae Jamie Morris yn gweithio mewn tîm Argyfwng Iechyd Meddwl yng nghymoedd De Cymru; dyn sydd bob amser wedi torri corneli ac wedi mynd un cam ymhellach i'w gleifion. Ond mae Jamie yn gorwynt o anhrefn, yn jyglo un argyfwng ar ôl y llall gartref, yn y gwaith ac ar y strydoedd. Mae ei swydd yn ei gadw ar y rheng flaen, yn gofalu am y bobl fwyaf bregus yn ei gymuned, ond ar ba gost i'w les ei hun?

  • Bariau

    Bariau

    Gwylio nawr ar S4C Clic a BBC iPlayer

    Carchar y Glannau, ac mae carcharor, Barry Hardy, yn codi bag o gyffuriau oddi ar y llawr ar ôl i rywun ei ollwng - penderfyniad sy'n mynd i newid ei fywyd am byth. Er bod ei gymar cell, Peter, yn ceisio ei berswadio i gael gwared â'r cyffuriau, mae gan Barry syniad. Mae digwyddiad gwaedlyd ar y wing yn golygu bod y swyddogion, Elin a Ned, yn poeni am eu swyddi. Ac mae carcharor newydd yn cyrraedd. Dyw Kit Brennan ddim yn wyneb newydd i bawb, ac mae ei ymddangosiad yn peri gofid i fwy nag un.

  • Drama gomedi dywyll a chwareus: Pren ar y Bryn

    Drama gomedi dywyll a chwareus: Pren ar y Bryn

    Ar gael ar S4C, S4C Clic, a BBC iPlayer

    Drama swreal newydd. Mae newid ar y gorwel ym Mhenwyllt ac mae'r werin sy'n byw yno yn gwybod bod y dref roedden nhw'n ei charu unwaith ar fin diflannu o flaen eu llygaid. Neb yn fwy na Margaret a Clive, sy'n cael eu hysgwyd o'u bywydau normal i ganol ddirgelwch mawr.

  • Rownd a Rownd - Cyfres 2024

    Rownd a Rownd - Cyfres 2024

    Mae Arthur wedi cynhyrfu'n lân, ond mae Mathew a Philip yn cael trafferth mawr rhannu ei frwdfrydedd. Mae Mathew yn falch iawn o wneud esgus i fynd oddi wrtho, ond dydi Philip ddim mor lwcus. I ychwanegu at ei ddiflastod, mae Philip yn derbyn newyddion annisgwyl iawn, a phan ddaw Mathew i wybod mai Iolo oedd yr un adawodd y gath o'r cwd, dydi pethau ddim yn dda arno o gwbl. Dydi bywyd Lea ddim yn fêl chwaith, ac ar ben ei thrafferthion gyda Mathew, mae mater bach o arholiad mathemateg.

  • Pobol y Cwm - Cyfres 2024

    Pobol y Cwm - Cyfres 2024

    Mae Anita yn taro rhywun i lawr gyda'i char wedi ei ffrae gyda Diane. Mae ymwelydd annisgwyl yn dod i'r Felin.

  • Achub Mynydd

    Achub Mynydd

    Drama o Sweden yn dilyn bywydau ymatebwyr cyntaf yng nghyrchfan fynydd hyfryd Are: lleoliad sydd mor syfrdanol ag y mae'n beryglus.

  • None

    Albi a Noa yn Achub yr Iwnifyrs

    Cyfle arall i weld y ffilm gerdd i'r teulu cyfan sy'n olrhain bywyd bachgen bach 7 oed o'r enw Noa. Mae rhieni Noa yn hyfryd, ond maen nhw'n brysur tu hwnt. Mae Noa'n unig blentyn, ond dydy e ddim yn unig. Mae Noa wedi creu ffrind dychmygol drygionus o'r enw Albi, sy'n un o nifer o 'ffrindiau dychmygol' sy'n byw mewn byd arbennig iawn. Mae'r ffilm yn adrodd hanes y teulu cyffredin yma yn ystod un gaeaf hudol wrth i fywyd Noa gael ei drawsnewid. Mae'r ffilm wedi'i hysgrifennu a'i chreu gan Caryl

  • Astrid

    Astrid

    Drama drosedd Ffrengig gyffrous gan Walter Presents. Mae'r ditectif a thorrwr rheolau, Raphaelle Coste, yn gweithio gyda'r archifydd awtistig Astrid Nielsen i helpu i ddatrys achosion anhydrin.

  • Bariau

    Bariau

    Carchar y Glannau, ac mae carcharor, Barry Hardy, yn codi bag o gyffuriau oddi ar y llawr ar ôl i rywun ei ollwng - penderfyniad sy'n mynd i newid ei fywyd am byth. Er bod ei gymar cell, Peter, yn ceisio ei berswadio i gael gwared â'r cyffuriau, mae gan Barry syniad. Mae digwyddiad gwaedlyd ar y wing yn golygu bod y swyddogion, Elin a Ned, yn poeni am eu swyddi. Ac mae carcharor newydd yn cyrraedd. Dyw Kit Brennan ddim yn wyneb newydd i bawb, ac mae ei ymddangosiad yn peri gofid i fwy nag un.

  • Creisis

    Creisis

    Rhagflas o Creisis - pob pennod o'r gyfres newydd hon ar gael o Fawrth 31.

  • Rownd a Rownd

    Rownd a Rownd

    S4C Clic

    Cyfres ddrama boblogaidd wedi'i lleoli yn y gogledd.

  • Pobol y Cwm

    Pobol y Cwm

    S4C Clic

    Cyfres sebon wedi'i lleoli mewn pentref o'r enw Cwmderi.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?