Ar gael nawr ar S4C Clic
Drama chwe rhan gynhyrfus, newydd sbon.
Mae Jamie Morris yn gweithio mewn tîm Argyfwng Iechyd Meddwl yng nghymoedd De Cymru; dyn sydd bob amser wedi torri corneli ac wedi mynd un cam ymhellach i'w gleifion. Ond mae Jamie yn gorwynt o anhrefn, yn jyglo un argyfwng ar ôl y llall gartref, yn y gwaith ac ar y strydoedd. Mae ei swydd yn ei gadw ar y rheng flaen, yn gofalu am y bobl fwyaf bregus yn ei gymuned, ond ar ba gost i'w les ei hun?
Carchar y Glannau, ac mae carcharor, Barry Hardy, yn codi bag o gyffuriau oddi ar y llawr ar ôl i rywun ei ollwng - penderfyniad sy'n mynd i newid ei fywyd am byth. Er bod ei gymar cell, Peter, yn ceisio ei berswadio i gael gwared â'r cyffuriau, mae gan Barry syniad. Mae digwyddiad gwaedlyd ar y wing yn golygu bod y swyddogion, Elin a Ned, yn poeni am eu swyddi. Ac mae carcharor newydd yn cyrraedd. Dyw Kit Brennan ddim yn wyneb newydd i bawb, ac mae ei ymddangosiad yn peri gofid i fwy nag un.
Drama swreal newydd. Mae newid ar y gorwel ym Mhenwyllt ac mae'r werin sy'n byw yno yn gwybod bod y dref roedden nhw'n ei charu unwaith ar fin diflannu o flaen eu llygaid. Neb yn fwy na Margaret a Clive, sy'n cael eu hysgwyd o'u bywydau normal i ganol ddirgelwch mawr.
Dydi pethau'n gwella dim yn nhŷ Dylan a Sophie ac mae'r sefyllfa annifyr yn prysur droi'n annioddefol. Dan amgylchiadau fel hyn yn arferol, nid Glenda yw'r person amlycaf i droi ati hi am gyngor ond mae pethau wedi cyrraedd y pen ac mae'n rhaid i rywun geisio dod â threfn yn ol i'r tŷ. Yn y cyfamser, dydi pethau ddim wedi dechrau'n obeithiol rhwng Mathew a Lea, ac yn lle gwella, fe aiff pethau o ddrwg i waeth.
Cyfle arall i weld y ffilm gerdd i'r teulu cyfan sy'n olrhain bywyd bachgen bach 7 oed o'r enw Noa. Mae rhieni Noa yn hyfryd, ond maen nhw'n brysur tu hwnt. Mae Noa'n unig blentyn, ond dydy e ddim yn unig. Mae Noa wedi creu ffrind dychmygol drygionus o'r enw Albi, sy'n un o nifer o 'ffrindiau dychmygol' sy'n byw mewn byd arbennig iawn. Mae'r ffilm yn adrodd hanes y teulu cyffredin yma yn ystod un gaeaf hudol wrth i fywyd Noa gael ei drawsnewid. Mae'r ffilm wedi'i hysgrifennu a'i chreu gan Caryl