Gardd Pont y Tŵr

Plannu gardd yn her newydd i gynllunydd blodau o Ddyffryn Clwyd

Mae Sioned Edwards yn wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C fel cynllunydd blodau, ond mae gan Sioned her arall hefyd y dyddiau yma wrth droi hanner acer o gae ger ei thŷ fferm yn ardd lysiau, ffrwythau a blodau.

Byddwn yn dilyn datblygiad yr ardd yng nghyfres newydd S4C, Gardd Pont y Tŵr sy'n dechrau nos Wener, 18 Ebrill wrth i Sioned, ei gŵr Iwan a'u dwy ferch fach, Nanw 9 oed a Malan sy'n 3 oed, dorchi llewys a dylunio gardd organig.

Ychydig dros flwyddyn yn ôl, fe wnaeth Sioned symud i fyw hen ffermdy ei nain a'i thaid wrth droed Moel Famau yn Nyffryn Clwyd a dyna oedd dechrau'r prosiect cyffrous ac uchelgeisiol. Yn ystod ffilmio'r gyfres, mae Sioned, sy'n wreiddiol o Aberchwiler yn Sir Ddinbych, yn dod yn fwy cyfarwydd â thrin llysiau a phlanhigion, ac yn mwynhau cydweithio ar brosiect gyda'i gŵr hefyd.

"Rydyn ni'n dysgu drwy'r amser. Dydan ni erioed wedi cael gardd ein hunain, ac rydan ni wedi g'neud lot o waith ymchwil a gwario amser yn ail gynllunio fel bod yr ardd yn genud popeth sydd eisau arnom. Mae na gamgymeriadau ac ail feddwl yn digwydd yn amal. Ond dyna ydy gardd - rhywbeth sydd yn datblygu, ac mae o'n neis dysgu rhywbeth newydd, a dysgu pethau newydd am ein gilydd hefyd," meddai Sioned, sy'n gyfarwydd fel un o gyflwynwyr y gyfres Byw yn yr Ardd.

Mae Sioned a'i theulu yn byw mewn carafán ar hyn o bryd, gan fod yr hen ffermdy angen llawer o waith. Dyw byw mewn lle gyfyng ddim bob amser yn rhwydd, ond dywed ei bod yn sbardun iddyn nhw dreulio mwy o amser yn yr ardd!

Un o'r egwyddorion pwysica' i Sioned ac Iwan ydy tyfu planhigion mewn dull organig. Yn y gyfres fe welwn ni'r ddau yn ceisio cadw'r ardd mor wyrdd â phosib ac yn tyfu tatws heb chwistrell y chwynladdwr, menter nad oedd yn hawdd ar dir mynyddig. Mae Sioned hefyd yn credu ei bod hi'n bwysig tyfu llysiau iddi hi a'i theulu eu bwyta.

"Rydyn ni'n mynnu ein bod ni fel teulu yn plannu'n llysiau ein hunain heb ddibynnu gormod ar archfarchnadau. Dwi'n cael mwynhad o weld y plant yn dysgu; trwy hynny rydych hi'n gwerthfawrogi bwyd lot mwy," meddai.

Yn ystod y gyfres cawn gyfarfod nifer o gymeriadau'r ardal, aelodau o deulu Sioned, yn ogystal ag ambell fochyn o'r fferm gerllaw! Maen nhw i gyd eisiau gweld Gardd Pont y Tŵr yn blaguro unwaith eto.

Mae'r ffermdy yn dod ag atgofion llawen i Sioned, sy'n cofio ymweld â'i nain a'i thaid yno'n blentyn.

"Pan oeddan ni'n fychan, dwi'n cofio cael te bach p'nawn Sul yno a marchogaeth ceffyl efo taid. Roedd o'n lle mor hapus, hefo adar bach yn canu yno a llwyth o flodau bach. Mae gen i atgofion mor neis o fod yno, ac roedd o'n bechod ei weld o'n dymchwel. Roeddwn i isho achub yr ardd i'r cenedlaethau i ddod."

Noddir Gardd Pont y Tŵr gan Ganolfan Arddio a Bwyty Fron Goch, Caernarfon.