Rhaid i Darren gydymffurfio â thag cyrffyw rhwng 7pm a 7am a phrofion cyffuriau ar hap er mwyn osgoi cael ei anfon yn ôl i'r carchar. Mae gan Chloe hanes gwael o ddod i'w hapwyntiadau ac mae hi mewn perygl o gael ei gyrru'r llys eto. Nerys a Jo ydy'r Swyddogion Gwasanaeth Prawf sy'n gorfod rheoli ymddygiad y ddau yn y gymuned er mwyn ceisio'u hatal rhag troseddu eto, a chadw'r cyhoedd yn ddiogel.
Dychwelwn i Sain Ffagan i ddatgelu mwy o'i thrysorau a'i straeon. Mae hi'n ddiwrnod prysuraf y flwyddyn yn yr Amgueddfa wrth i ddegau o filoedd o ymwelwyr gyrraedd i fwynhau'r ŵyl fwyd. Mae atgyfodiad Gwesty'r Vulcan yn parhau wrth i'r to fynd yn ei le ac mae'r ffenestri lliw yn cael ail-fywyd.