Mae S4C yn chwilio am Brif Swyddog Technegol, i chwarae rhan ganolog wrth lunio a chyflawni ein strategaeth ddigidol a thechnolegol i gefnogi ein cenhadaeth a'n twf yn y dyfodol. Mae hon yn swydd arwain allweddol, a bydd ei deiliad yn gyfrifol am sbarduno arloesedd, sicrhau seilwaith technoleg cadarn a diogel, a gofalu bod atebion technegol yn cyd-fynd â nodau busnes. Rydym yn chwilio am arweinydd â gweledigaeth sydd ag arbenigedd technegol cryf a meddylfryd cydweithredol, person a fydd yn gallu ysbrydoli timau, rheoli partneriaethau technoleg allweddol a'n helpu ni i ddefnyddio technoleg i wasanaethu ein cynulleidfaoedd mewn ffyrdd newydd a diddorol.
Dyddiad Cau: 29 Mai 2025
Mae S4C yn cynnig cyfle unigryw i lunio naratif y cyhoedd o amgylch rhaglenni diwylliannol arwyddocaol, o ddrama a cherddoriaeth i newyddion a chwaraeon.
Mae'r rôl hon yn mynd y tu hwnt i gyfathrebu traddodiadol - mae'n ymwneud ag arwain ymgyrchoedd integredig, helpu siapio negeseuon mewnol a'r naratif allanol, a chyfrannu'n uniongyrchol at wireddu strategaeth gorfforaethol S4C mewn hinsawdd gyfryngau gyffrous ond heriol.
Dyma gyfle i weithio wrth galon sefydliad cyfryngau bywiog lle mae dod o hyd i ac adrodd straeon dwyieithog, arloesi ac ymgysylltu â'r gynulleidfa ar flaen y gad.
Dyddiad Cau: 2 Mehefin 2025
Mae S4C yn chwilio am Gynorthwyydd Hawliau a Materion Busnes fydd yn cydweithio yn agos gyda'r Swyddogion Materion Busnes, y Swyddog Hawliau, tîm Rheoli Cynnwys ac Amserlennu er mwyn sicrhau bod unrhyw gynnwys a ddarlledir wedi ei glirio'n gywir a bod cytundebau hawliau a chliriadau S4C yn cael eu gweinyddu'n gywir yn ogystal â helpu gyda gweinyddiaeth y tîm busnes.
Dyddiad Cau: 29 Mai 2025
Mae S4C yn chwilio am Arweinydd Marchnata Digidol i arwain ar weledigaeth ddigidol i'w hymdrechion hyrwyddo. Mae hon yn rôl newydd gyffrous sy'n gofyn am ddealltwriaeth ddofn ac angerdd am y cyfleoedd mai llwyfannau digidol yn eu cynnig i ymgyrchoedd marchnata, brand ac ymgysylltu.