Christopher Rees, canwr a chyfansoddwr o Lanelli sy'n perfformio 'Fetia' i ngheiniog ola'' ar lwyfan y Noson Lawen.
Carys Eleri a Branwen Munn sef FFLOW sy'n perfformio eu sengl 'Diolch am y tân' ar lwyfan Noson Lawen Bae Caerfyrddin.
Y mezzo-soprano o Drimsaran, Eirlys Myfanwy Davies sy'n perfformio'r gân ddramatig o Sbaen, 'El Vito' ar lwyfan y Noson Lawen.
@Harmoni sef grŵp o Sir Gâr sy'n perfformio eu cân wreiddiol, 'Pellter' ar lwyfan Noson Lawen Bae Caerfyrddin.
Rhai o ffans mwyaf tîm rygbi Cymru o'r Bala sy'n perfformio 'Cân yr hogie' ar lwyfan y Noson Lawen.
Bronwen Lewis sy'n perfformio un o ganeuon poblogaidd Max Boyce, 'Hymns and Arias' mewn pennod arbennig o Noson Lawen Y Byd Rygbi.
Trystan Llŷr Griffiths ac ensemble o glwb rygbi Crymych sy'n perfformio 'West is best' - cân deyrnged i un o fawrion y byd rygbi, Ray Gravell.
Hanna Morgan o Lantrisant sy'n perfformio 'Sosban Fach' fel rhan o Noson Lawen Y Byd Rygbi.
Y gantores o Ddulais, Bronwen Lewis sy'n perfformio ei threfniant arbennig hi o un o ffefrynnau'r cae rygbi, 'Cwm Rhondda'.
Rhys ap William sy'n perfformio'r anthem gan Dafydd Iwan, 'Yma o hyd' fel cymeriad Terry Watkins ar lwyfan Noson Lawen Y Byd Rygbi.
Y bariton ac un o chwaraewyr clwb rygbi Llangefni, Steffan Lloyd Owen sy'n perfformio 'Calon lân' mewn pennod arbennig o'r Noson Lawen - Y Byd Rygbi.
Mewn rhaglen arbennig i ddathlu penblwydd Edward H Dafis yn 50 oed, Gwilym Bowen Rhys a Mari Mathias sy'n perfformio eu trefniant hudolus nhw o 'Tir Glas'.
Mewn rhaglen arbennig sy'n dathlu 50 mlynedd ers i Edward H Dafis ffurfio, Lowri Evans sy'n perfformio clasur o faled sef 'Neb ar ôl'.
Gyda chymorth band y Noson Lawen ac Aelwyd y Waun Ddyfal, Cleif Harpwood a Hefin Elis, dau o aelodau Edward H Dafis sy'n dychwelyd i'r llwyfan i berfformio 'Cân yn ofer' mewn rhaglen arbennig i ddathlu 50 mlynedd ers sefydlu'r band.
Mewn dathliad arbennig i nodi 50 mlynedd ers ffurfio Edward H Dafis, Lisa Angharad a Rhys Gwynfor sy'n perfformio 'Ti' ar lwyfan y Noson Lawen.
Mei Gwynedd sy'n perfformio un o ganeuon mwyaf poblogaidd Edward H Dafis sef 'Pishyn' mewn dathliad arbennig i nodi penblwydd y band yn 50 oed.
Mewn pennod arbennig o'r Noson Lawen i ddathlu 50 mlynedd ers sefydlu'r grŵp Edward H Dafis, Mari Mathias sy'n perfformio ei fersiwn hi o 'Mistar Duw' gyda band y rhaglen a Greta Siôn Roberts ar y delyn.
Pwdin Reis, y band o Orllewin Cymru sy'n rhoi eu stamp 'rockabilly' nhw ar 'Breuddwyd roc a rôl' mewn pennod arbennig i ddathlu 50 mlynedd ers sefydlu'r band poblogaidd, Edward H Dafis.
Plu sy'n perfformio trefniant acwstig hyfryd o 'Tyrd i edrych' - un o ganeuon poblogaidd Edward H Dafis mewn rhaglen i ddathlu penblwydd y band yn 50 oed.
Sam Ebenezer gyda'i ddehongliad o 'Ar y ffordd' gan Edward H Dafis fel rhan o raglen arbennig i ddathlu sefydlu'r grŵp poblogaidd 50 mlynedd yn ôl.