S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cynhyrchu

Ofcom yn newid strwythur rhifau ffôn – newidiadau i Ganllawiau Rhyngweithio neu Gystadlu ar Raglenni S4C

Galwadau yn y DU - Côd Darlledu Ofcom

Os ydych yn cynhyrchu rhaglenni i S4C sy'n cynnwys rhif i ddeialu mewn i alluogi'r gwyliwr i ryngweithio neu i gael mynediad at wybodaeth bellach, dylech ddarllen y nodyn hwn a chymryd y camau priodol. Daeth y newidiadau i Gôd Darlledu Ofcom ar y 1af o Orffennaf 2015.

Mae gwaith ymchwil Ofcom wedi dangos bod pobl yn drysu ynglŷn â sut y codir tâl arnynt am alwadau i rifau annaearyddol ('Non-Geographic Numbers' ("NGN")) (yn aml rhifau 03, 08, 09 ac 118).

Ar y 1af o Orffennaf 2015 gosodwyd strwythur newydd gan Ofcom ar gyfer galwadau i rifau annaearyddol sy'n dechrau gyda 08, 09 ac 118. Gelwir y strwythur yn "dariff wedi'i ddad-fwndelu".

Mae rhifau NGN sy'n dechrau gyda 08, 09 ac 118 yn aml yn rhifau gwasanaeth. Wrth ffonio'r rhifau hyn, mae'n bosibl y codir tâl nid yn unig am gost yr alwad ei hun, ond hefyd am y gwasanaeth a ddarperir. O dan y strwythur presennol, nid yw'n glir pa ran o'r alwad sy'n cael ei dalu i bwy.

Diben strwythur y "tariff wedi'i ddad-fwndelu" yw sicrhau bod cost ffonio rhifau NGN sy'n dechrau gyda 08, 09 ac 118 (Rhifau Tariff wedi'i Ddad-fwndelu neu 'Unbundled Tariff Numbers' ("UTN")) yn glir i bawb. Bydd yn effeithio ar bob galwad i rifau UTN o ffonau symudol a llinellau daear cwsmeriaid. Rhaid dweud wrth gwsmeriaid yn union faint sy'n cael ei dalu i'w darparwr ffôn ("y Tâl Mynediad") a faint sy'n cael ei dalu i'r darparwr gwasanaeth ("y Tâl Gwasanaeth").

(Y Tâl Mynediad yw'r rhan o'r alwad y mae cwmni ffôn y person sy'n gwneud yr alwad yn codi tâl amdano. Y Tâl Gwasanaeth yw'r rhan o'r alwad a all gynnwys cost cyfeirio'r alwad, y derbyniad a (lle y bo'n berthnasol) taliad i'r cwmni sy'n darparu'r gwasanaeth y mae'r cwsmer yn ei dderbyn.)

Disgwylir i gost gwneud galwadau i rifau NGN ostwng o ganlyniad i'r newidiadau.

Yn y byd darlledu, yn aml defnyddir rhifau UTN i alluogi gwylwyr i ryngweithio gyda rhaglenni. Os yw'r rhaglen(ni) rydych yn eu cynhyrchu i S4C yn cynnwys rhifau UTN dylech ystyried ai'r rhif yr ydych yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd yw'r rhif sy'n parhau i fod yn fwyaf addas (o ystyried y gost i'r gwylwyr). Gall darparwr eich gwasanaeth ffôn eich cynghori ar hyn.

Os ydych, yn dilyn sgwrs gyda darparwr eich gwasanaeth ffôn, yn penderfynu mai'r rhifau UTN yw'r rhifau mwyaf addas i'w defnyddio, bydd angen i chi newid y negeseuon ar-sgrin yr ydych yn rhoi i'r gwylwyr am gostau'r galwadau yn unol â'r newidiadau diweddar i Gôd Darlledu Ofcom.

Mae Ofcom wedi gwneud mân newidiadau i adrannau 2, 9 a 10 o Gôd Darlledu Ofcom (ac i'r Canllawiau ategol) i sicrhau bod rhwymedigaethau'r Darlledwyr yn glir pan fyddant yn defnyddio rhifau UTN yn eu rhaglennu.

Mae'r newidiadau llawn i'r Côd a'r Canllawiau wedi eu hatodi ond, i grynhoi, mae'r newidiadau fel a ganlyn:-

  • Mae'n ofynnol i ddarlledwyr roi gwybodaeth benodol am brisiau i wylwyr pan ddefnyddir rhifau UTN. Ar hyn o bryd mae'n ofynnol i ddarlledwyr gynnwys disgrifiad o'r gost yn dilyn y fformat canlynol:-
  • "Bydd yr alwad yma'n costio X ceiniog y funud ar linell ffôn BT, gall darparwyr llinellau ffôn eraill amrywio a gall galwadau o ffonau symudol gostio tipyn yn fwy"

  • O'r 1af o Orffennaf 2015, bydd yn ofynnol i Ddarlledwyr nodi'n glir, mewn man amlwg sy'n agos at y rhif, beth yw'r Tâl Gwasanaeth perthnasol. Mae Ofcom yn cynghori y dylid defnyddio un o'r negeseuon canlynol:-
  • "Codir [h.y. y tâl gwasanaeth] y funud am yr alwad yn ogystal â thâl mynediad eich cwmni ffôn";

    neu

    "Codir [h.y. y tâl gwasanaeth] y funud am yr alwad yn ogystal â thâl mynediad eich rhwydwaith".

    09-Meh-2015

    Os nad oes Tâl Gwasanaeth dylech ddweud:

    "Yr unig dâl a godir am yr alwad hon fydd tâl mynediad eich cwmni ffôn."

    Ceir rhagor o wybodaeth hefyd ar wefan UK Calling (http://www.ukcalling.info/ ac yn enwedig y cyngor i fusnesau yn http://www.ukcalling.info/industry).

    Gall y cwmni sy'n darparu eich rhifau UTN roi fwy o wybodaeth i chi ac mae Ofcom yn cynghori sefydliadau sy'n defnyddio rhifau UTN i siarad gyda'u darparwyr i ddeall sut mae'r newidiadau yn effeithio arnynt.

    Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?