S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cynhyrchu

Tendrau Cynhyrchu

  • Gwahoddiad i wneud cais - Ffilm Ryngweithiol Gymraeg

    Mae S4C a Wales Interactive yn cynnig cyfle unigryw i awduron sgriptiau creadigol gyflwyno syniadau posibl ar gyfer creu ffilmiau rhyngweithiol hir i'w darparu yn y Gymraeg ac ieithoedd eraill.

    Mae Wales Interactive wedi bod yn cynhyrchu ffilmiau rhyngweithiol llwyddiannus a gemau fideo ar gyfer y consol next-gen, cyfrifiaduron a ffonau symudol am nifer da o flynyddoedd ac fe hoffem nhw gyd-gomisiynu'r ffilm ryngweithiol gyntaf erioed yn y Gymraeg mewn partneriaeth ag S4C. Mae S4C yn ystyried y cydweithio hwn fel ffordd hynod gyffrous o gyflwyno cynnwys Cymraeg i gynulleidfa fyd-eang. Darpariaeth fyddai y tu hwnt i ddarlledu sy'n cael ei drosglwyddo ar amser penodol ynghyd â'n galluogi i gysylltu drwy gyfrwng llwyfannau dosbarthu newydd.

  • Gwahoddiad i ddatgan diddordeb: Cytundeb Fframwaith Dybio Animeiddiadau Plant

    Gwahoddir ymgeiswyr i fod yn rhan o gytundeb fframwaith ar gyfer dybio cyfresi a rhaglenni animeiddiedig ar gyfer gwasanaethau plant S4C gan gynnwys Cyw a Stwnsh.

    Mae S4C yn rhagweld yr angen i drwyddedu oddeutu 6 cyfres neu raglenni plant unigol yn flynyddol. S4C fydd yn gyfrifol am ddewis ac ymrwymo i gytundeb gyda pherchennog yr hawliau yn unrhyw gyfres neu raglen animeiddiedig y dymuna S4C ei darlledu.

    Mae S4C yn edrych am nifer cyfyngedig o gyflenwyr (uchafswm o 6 a lleiafswm o 3) i ffurfio fframwaith o ddarparwyr sydd yn medru dybio rhaglenni animeiddiedig i'r Gymraeg yn ôl y gofyn. Hysbysir y gwaith i'r cwmnïau ar y fframwaith ar sail prosiect neu brosiectau yn ôl y galw

    Cynigir cytundeb o bedair blynedd (2023 i 2027) gyda'r opsiwn i ymestyn am flwyddyn ychwanegol (2028) ar yr un telerau. Bydd S4C yn adolygu cytundeb a pherfformiad pob ymgeisydd llwyddiannus ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf a chedwir yr hawl i derfynu cytundeb ar unrhyw adeg yn dilyn y fath adolygiad.

    Rydym yn gwahodd cwmnïau cynhyrchu annibynnol, sydd â phrofiad o ddybio ac addasu'r math yma o raglenni, i ddatgan eu diddordeb drwy ddanfon e-bost at tendr@s4c.cymru erbyn hanner dydd dydd Gwener Mai 12fed 2023. Fe fydd pob cwmni sy'n datgan eu diddordeb yn derbyn dogfen drwy e-bost erbyn diwedd yr un dydd Mai 12fed 2023, sy'n amlinellu'r manylion pellach.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?