S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cystadleuaeth Ffilm Wrth-Hiliol

Oeddech chi'n gwybod bod gan Gymru'r uchelgais i fod yn wlad wrth-hiliol erbyn 2030? Disgyblion Cymru, eich Sialens…

  • Dilynwch y gweithgareddau er mwyn gwella'ch dealltwriaeth o:

    Dilynwch y gweithgareddau er mwyn gwella'ch dealltwriaeth o:

    Beth ydy Cymuned Ethnig Amrywiol, pwy yw'r unigolion adnabyddus Cymreig sydd yn perthyn i'r gymuned a pha ieithwedd sydd yn addas i ddefnyddio.

  • Mewn grwpiau o tua 5, ewch ati i gynllunio, sgriptio a chreu ffilm fer (dim mwy na 90 eiliad!)

    Mewn grwpiau o tua 5, ewch ati i gynllunio, sgriptio a chreu ffilm fer (dim mwy na 90 eiliad!)

    Ffilm sydd yn hyrwyddo pwysigrwydd bod yn wrth-hiliol yng Nghymru mewn ffordd greadigol a diddorol.

  • Ar ôl i bawb gwblhau eich ffilmiau byr, beth am i'ch athrawon benderfynu pa un ydy'r un gorau o'ch ysgol chi.

    Ar ôl i bawb gwblhau eich ffilmiau byr, beth am i'ch athrawon benderfynu pa un ydy'r un gorau o'ch ysgol chi.

  • Gofynnwch i'ch athro gyflwyno'r ffilm orau trwy adran 'Cyflwyno Ffilm' ar wefan S4C erbyn dydd Gwener 26 Ebrill 2024.

    Gofynnwch i'ch athro gyflwyno'r ffilm orau trwy adran 'Cyflwyno Ffilm' ar wefan S4C erbyn dydd Gwener 26 Ebrill 2024.

Cynllun Cymru Wrth-Hiliol 2030

Bydd y Cynllun Cymru Wrth-Hiliol 2030 yn sicrhau bod pawb yn gwrando, a deall mwy am brofiadau pobl Cymru, o hiliaeth.

Bydd y Cynllun Cymru Wrth-Hiliol 2030 yn sicrhau bod plant a phobl o Gymunedau Ethnig Amrywiol Cymru yn cael yr un cyfleoedd â phawb arall.

Bydd y Cynllun Cymru Wrth-hiliol 2030 yn sicrhau bod plant a phobl o Gymunedau Ethnig Amrywiol yn gweld esiamplau gwych o gynrychiolaeth o'u cymunedau ar y teledu, yn y Llywodraeth, ar y meysydd chwarae ac mewn swyddi amlwg, a phwysig.

Mae angen gwella sut mae holl sefydliadau Cymru yn delio gyda hiliaeth.

​Beth nesaf…

Bydd ffilm orau pob ysgol yn cael eu gwylio gan banel o feirniaid bydd yn dewis y ffilm gorau o bob un o'r chwe chategori.

Bydd enillwyr pob categori yn derbyn gwahoddiad i gyd-weithio gyda rhai o gwmnïoedd teledu mwya' Cymru, i droi eu ffilm nhw yn ffilm 'go iawn' gydag offer proffesiynol anhygoel!

Pob lwc, a chofiwch…

Mae bod yn wrth-hiliol yn gyfrifoldeb ar bob un ohonom ni!

Amrywiaeth a Chynhwysiant
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?