Mae S4C yn chwilio am Gyfrifydd Cynorthwyol i ymuno a'r adran gyllid. Byddwch yn gyfrifol am fonitro cyllidebau, cadw cyfrifon a pharatoi adroddiadau ariannol ac am holl agweddau cyfrifyddu ar gyfer S4C Masnachol.
Byddwch yn cyfathrebu'n effeithiol ac yn gweithio'n agos gyda'ch cydweithwyr ac eraill i sicrhau ein bod yn cyflawni ein hamcanion corfforaethol a'n rhagoriaeth greadigol wrth sicrhau ein bod yn gweithredu'n effeithiol ac yn unol â'n hymrwymiadau strategol.
Byddwch yn cyfrannu i gyfarfodydd a thrafodaethau mewn perthynas â'ch prif gyfrifoldebau a thu hwnt er lles S4C yn gyffredinol.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig yn hanfodol ar gyfer y rôl. Mae cefnogaeth ar gael i ddarparu cyrsiau gloywi iaith Gymraeg neu i fagu hyder os oes angen.
Manylion Eraill
Lleoliad: Lleoliad arferol eich gwaith fydd Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac maent yn gweithredu polisi gweithio'n hybrid. Disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn.
Cyflog: £25,000 - £30,000 y flwyddyn yn unol â phrofiad, gyda phecyn hyfforddiant ar gael.
Cytundeb: Parhaol
Oriau Gwaith: 35.75 yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cyfnod Prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 ar ddydd Mawrth 7 Mai 2024 at adnoddau.dynol@s4c.cymru neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Dyddiad Cyfweliadau: Dydd Mawrth 14 Mai 2024
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.