Mae S4C yn chwilio am Reolwr Adnoddau Dynol profiadol i ymuno a'r tîm. Mi fyddwch yn darparu gwasanaeth AD i S4C gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i hyfforddi a datblygu, reoli absenoldeb, recriwtio, data, polisïau, y gyflogres, a phob agwedd arall sy'n ymwneud ag Adnoddau Dynol a'r Gyflogres.
Byddwch yn cefnogi'r Cyfarwyddwr wrth gynllunio strategaethau a chynlluniau pobl ac yn rheoli cysylltiadau a gweithwyr. Yn creu mentrau ymgysylltu â gweithwyr a pholisïau a gweithdrefnau pobl, byddwch yn defnyddio systemau gwybodaeth Adnoddau Dynol i gasglu data a mewnwelediadau pobl. Byddwch hefyd yn gyfrifol am reoli'r broses ddysgu a datblygu er mwyn sicrhau ei bod yn diwallu anghenion y sefydliad a rheoli'r broses recriwtio.
Mae'r rôl yn atebol i Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol.
Mae'r gallu i gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig i safon uchel yn y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y rôl yma.
Manylion Eraill
Lleoliad: Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ. Rydym hefyd yn gweithredu polisi hybrid.
Cyflog: O gwmpas £42,000 i £48,000, yn ddibynnol ar lefel cymhwyster a phrofiad.
Cytundeb: Parhaol
Oriau Gwaith: 35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cyfnod Prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 ar ddydd Mawrth 21 Mai 2024 at adnoddau.dynol@s4c.cymru neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.