S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Ffair Aeaf

Cystadleuaeth Ffair Aeaf 2023

Mae'r gystadleuaeth wedi cau

Rheolau Cystadleuaeth Y Ffair Aeaf 2023

Mae'r amodau a thelerau yn ymwneud â chystadleuaeth Y Ffair Aeaf 2023. Trwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth rydych yn cytuno i fod yn gaeth i'r rheolau.

I gystadlu, rhaid i chi:

Ateb y cwestiwn ar wefan Y Ffair Aeaf 2023

Rhoi eich enw, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn ar y wefan

Cadarnhau eich bod dros 18 oed.

Bydd y gystadleuaeth yn cau am 4.00 yp, Dydd Mawrth 28ain o Dachwedd 2023.

Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a'r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.

Mae'r gystadleuaeth yn agored i holl breswylwyr y Deyrnas Unedig, 18 oed neu'n hŷn, ac eithrio staff S4C, Boom Cymru a Slam Media, (neu gwmni cysylltiol), eu teulu agosaf a chwmnïau sydd â chyswllt uniongyrchol gyda'r gystadleuaeth hon.

Dewisir un enillydd ar hap o blith yr enwau sydd wedi rhoi ateb cywir i'r cwestiwn erbyn y dyddiad a'r amser cau. Bydd penderfyniad Boom Cymru / S4C ynghylch â'r enillydd yn derfynol, ac ni atebir unrhyw ohebiaeth.

Un wobr sydd: Taleb am £100 o gig yn eich siop cigydd lleol

Ni fydd angen prynu unrhyw beth i gystadlu.

Caniateir un ymgais fesul unigolyn.

Hysbysir yr enillydd mewn neges e-bost ar ôl y dyddiad cau.

Cyhoeddir enw'r enillydd ar raglen Uchafbwyntiau Y Ffair Aeaf 2023 ar nos Sul 3 Rhagfyr 2023. Bydd Boom Cymru hefyd yn cysylltu a'r enillydd drwy ebost neu ffon ar Ddydd Llun 4 Rhagfyr 2023.

Trwy gystadlu yn y gystadleuaeth, mae'r ymgeisydd:

yn cadarnhau bod yr holl wybodaeth a ddarparwyd i Boom Cymru ac S4C yn gywir;

yn cytuno, os byddwch yn ennill y gystadleuaeth, y gall Boom Cymru ac S4C ddefnyddio ei enw a llun at ddibenion hyrwyddo.

Mae Boom Cymru ac S4C yn cadw'r hawl i ofyn am brawf ysgrifenedig o oedran unrhyw enillydd ac i anghymwyso unrhyw ymgeisydd os bydd sail resymol dros gredu bod yr ymgeisydd wedi torri unrhyw rai o'r amodau a thelerau hyn.

Rhaid cyflwyno pob cais trwy gyfrwng y ffurflen ar wefan Ffair Aeaf 2023 a darparu cyfeiriad e-bost gweithredol. Ni dderbynnir unrhyw geisiadau a gyflwynir trwy gyfrwng unrhyw ddull arall.

Ni ellir cyfnewid neu drosglwyddo'r wobr, ac ni fydd modd hawlio swm ariannol yn gyfnewid amdani.

Mae Boom Cymru ac S4C yn cadw'r hawl i gyfnewid y wobr neu unrhyw ran ohoni am wobr o'r un gwerth ariannol, neu o werth ariannol uwch, a bydd penderfyniad Boom Cymru ac S4C yn hyn o beth yn derfynol.

Ni fydd Boom Cymru nac S4C yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriad, diffyg, amhariad, dileu, nam neu oedi mewn unrhyw ddull cyfathrebu a ddefnyddir gan ymgeiswyr neu ar gyfer ceisiadau nad ydynt yn cyrraedd cyn y dyddiad cau. Ni ellir derbyn bod prawf anfon e-bost yn cyfateb â phrawf ei bod wedi cyrraedd.

Os na fydd modd i Boom Cymru ac S4C gysylltu â'r enillydd trwy gyfrwng y manylion cyswllt a ddarparwyd, neu os na fydd modd gwneud trefniadau i ddosbarthu'r wobr yn dilyn ymdrechion rhesymol gan Boom Cymru / S4C i wneud hynny, bydd gan Boom Cymru / S4C yr hawl i roi'r wobr i enw arall a ddewisir ar hap o'r holl geisiadau.

Mae Boom Cymru ac S4C yn cadw'r hawl i ddiwygio'r amodau a thelerau hyn neu i ganslo, addasu neu ddiwygio'r gystadleuaeth ar unrhyw adeg o ganlyniad i ddigwyddiadau y tu hwnt i'w rheolaeth.

Mae Boom Cymru ac S4C yn gwahardd unrhyw atebolrwydd i'r graddau llawn a ganiateir gan y gyfraith am unrhyw golled, difrod, anaf neu siomedigaeth a ddioddefir gan unrhyw ymgeisydd, sy'n codi o'r ffaith ei fod ef neu hi wedi cystadlu yn y gystadleuaeth hon, neu sy'n digwydd i'r enillydd o ganlyniad i'r ffaith eu bod wedi derbyn y wobr.

Ar wahân at ddibenion gweinyddu'r gystadleuaeth ac i hyrwyddo enw'r enillydd, ni fydd Boom Cymru yn defnyddio gwybodaeth bersonol yr ymgeiswyr, ac ni fydd yn defnyddio data o'r fath at unrhyw ddibenion eraill. Bydd Boom Cymru yn dinistrio'r holl ddata personol y mae'n meddu arno, ac a gafodd fel rhan o'r ceisiadau ar gyfer y gystadleuaeth, ar ôl i'r gystadleuaeth ddod i ben.

Mae eich data personol yn bwysig iawn i Boom Cymru ac felly mae'r wybodaeth rydych yn darparu i ni yn cael ei gasglu a'i brosesu yn unol â deddfau Rheoli Data a Hysbysiad Preifatrwydd Boom Cymru sydd ar gael ar ein gwefan: www.boomcymru.co.uk/polisi-preifatrwydd/ ynghyd â pholisi preifatrwydd S4C www.s4c.cymru/cy/y-wefan-hon/page/16717/polisi-pre....

Mae'r gystadleuaeth hon yn rhwym i gyfreithiau Cymru a Lloegr.

Mae'r gystadleuaeth yn agored i breswylwyr y Deyrnas Unedig yn unig. Trefnir a hyrwyddir y gystadleuaeth hon gan Boom Cymru, Gloworks, Ffordd Porth Teigr, Caerdydd, CF10 4GA a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu gwynion am y gystadleuaeth hon at Wifren Gwylwyr S4C ar 0370 600 4141.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?