S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Pecyn y Wasg - Nadolig 2021 ar S4C

Wrth i flwyddyn anodd arall dod i ben, mae pawb yn edrych ymlaen at ddathlu'r Nadolig gyda theulu a ffrindiau.

Mae gwledd o raglenni arbennig ar S4C dros y Nadolig i dwymo calonnau a dathlu hwyl yr ŵyl.

Mae rhywbeth ar gyfer pob aelod o'r teulu - felly dyma rhai o'r uchafbwyntiau sydd ar gael i wylwyr S4C dros y Nadolig...

BWYD BYD EPIC CHRIS

Y Dolig hwn bydd y cogydd tanbaid o Gaernarfon, Chris Roberts, yn dod â blas o fwydydd y byd i strydoedd y dref yn y rhaglen Bwyd Byd Epic Chris.

O gyw iâr jerk o Jamaica i borc traddodiadol o Ynysoedd y Philipinau, mae Chris wrth ei fodd yn profi bwydydd newydd o bob cwr o'r byd.

Wedi iddo golli allan ar deithio a phrofi diwylliannau eraill y byd yn ystod y pandemig, mae Chris wedi penderfynu cynnal gwledd fyd-eang EPIC yn ei dref enedigol.

Y nod? Rhoi blas i ffrindiau, teulu a phobl leol o fwydydd y byd, rhannu ryseitiau a dysgu - a rhoi'r cyfle i wylwyr adre greu prydau gwahanol dros yr Ŵyl!

Bwyd Byd Epic Chris, Nos Fercher, 22 Rhagfyr, 9.00

PAMPRO CŴN CYMRU

Yn y rhaglen Pampro Cŵn Cymru, cŵn hynod o haeddiannol fydd yn cael trît bach gan dîm trin cŵn mwyaf medrus Cymru - Dylan Wyn o Cwtsh y Ci, Caerfyrddin, ac Anna Williams o Annie's Doggie Day Care, Llandudno.

Gyda Jac y ci therapi yn cael pamper a digon o faldod i Jess y milgi sydd wedi torri ei choes, bydd y rhaglen yn llawn cyfarth-ion yr ŵyl.

Pampro Cŵn Cymru, Noswyl Nadolig 24 Rhagfyr, 8.00

ALED JONES A SÊR Y NADOLIG

Dewch i ddathlu hud y Nadolig gydag Aled Jones a rhai o sêr gorau Cymru, wrth iddynt ddod at ei gilydd i gael gwledd Nadoligaidd. Bydd perfformiadau gan Aled Jones, Al Lewis, Lily Beau a'r seren o'r Eidal Carly Paoli.

Mae No Good Boyo yn dod a'u talentau unigryw i rai o ffefrynnau'r ŵyl, mae Glain Rhys wrth y piano a Siwan Henderson a Steffan Rhys Hughes yn dod a thamaid o hud y West End i'r rhaglen arbennig hon.

Bydd perfformiadau gan Y Cledrau, Brigyn a rhywfaint o ddisgleirdeb band pres gan Band Pres Tongwynlais.

Bydd diweddglo i'w gofio gyda pherfformiad arbennig gan Aled Jones yng nghwmni côr arbennig sydd yn fyddar cyfeillgar.

Aled Jones a Sêr y Nadolig, Noswyl Nadolig 24 Rhagfyr, 9.00

POBOL Y CWM

Mae 2021 wedi bod yn flwyddyn brysur yng Nghwmderi gyda sawl wyneb cyfarwydd yn gadael ond ambell wyneb newydd yn cyrraedd y Cwm hefyd. Un o'r wynebau sy'n ymddangos yn rhifyn arbennig ar gyfer y Nadolig yw Dylan.

Er ei fod wedi bod yn y carchar ers misoedd, mae'n llwyddo i gysylltu â rhai o drigolion y Cwm mewn ffordd ddramatig iawn.

Ond sut mae Dylan wedi llwyddo dianc o'r carchar a pham mae e'n cymryd y fath risg i weld ei deulu?

Nid yn unig yng Nghwmderi mae wyneb cyfarwydd i'w weld. Wrth i Jinx ac Arwen fynd ar daith i'r gogledd i weld Ffion - maent yn dod ar draws Cai, ei chynbartner. Oes gan y ddau rywbeth i'w guddio tybed?

Nos Galan, ac mae Megan yn chwilio am atebion ynglŷn â'i mab Gareth Wyn. Daw dieithryn i gartref Megan tra mae hi'n cysgu.

Mae llythyr yn cael ei osod ar fwrdd wrth ei hymyl hi, a gwelwn fod gair wedi ei sgwennu ar yr amlen... pwy yw'r ymwelydd dirgel tybed?

Pobol y Cwm, Bydd dau rifyn arbennig awr o hyd ar Ddydd Nadolig a Dydd Calan am 8.00 yn ogystal â'r tair rhaglen wythnosol ar Nos Fawrth, 28 Rhagfyr; Nos Fercher, 29 Rhagfyr a Nos Iau, 30 Rhagfyr.

ROWND A ROWND

Mae Ken yn cael dianc am noson i ffwrdd ac mae o'n edrych ymlaen yn arw. Mae o wedi bod yn brysur yn siopa am fwyd ac wedi dod o hyd i'w storfa o 'homebrew' er mwyn cael mwynhau'r trip efo Vince.

Ond dydi Vince ddim yn rhannu ei frwdfrydedd o gwbl. Mae o'n teimlo'n euog am yr hyn mae o wedi ei wneud i'w ffrind gorau.

Mae Kay yn ei gynghori i fynd a thrïo anghofio beth ddigwyddodd rhyngddynt ac ymlacio, ond mae'n llawer iawn haws dweud na gwneud.

Mae'r carolathon yn ei anterth ac mae'r rhan fwyaf o'r pentrefwyr yn hapus iawn i gymryd rhan. Mae rhai'n gallu canu'n well nag eraill ond mae'r ymdrech ar eu rhan i gyd yn rhywbeth i'w ganmol.

Mae gwaith caled Mel wedi sicrhau sylw cenedlaethol i'r diwrnod ac fe fydd gwestai arbennig iawn yn cyrraedd i sicrhau bod yr achlysur yn un cofiadwy iawn.

Rownd a Rownd, Nos Iau 23 Rhagfyr; Nos Fawrth 28 Rhagfyr a Nos Iau 30 Rhagfyr am 8.25

OEDFA BORE NADOLIG

Ar fore'r Nadolig, ymunwch â ni am Oedfa arbennig o dan ofal y Parchedig Beti Wyn James.

Oedfa Bore Nadolig, Diwrnod Nadolig, 25 Rhagfyr, 11.30

NOSON LAWEN DOLIG: NADOLIG YR IFANC

Leisa Gwenllian ac Iwan Fôn sy'n dathlu'r Nadolig yng nghwmni talentau ifanc gorau Cymru. Gyda Lloyd Macey a'r Minis, Lili Mohammad a Nansi Rhys, Amelia Evans ac Ensemble Ysgol y Strade, Iestyn Jones, Huw Boucher, Triawd Aelwyd yr Ynys, Alis Glyn, Geth Tomos, Ensemble Ysgol y Bont a Lleisiau Llawen.

Noson Lawen Dolig: Nadolig yr Ifanc Diwrnod Nadolig, 25 Rhagfyr, 9.00

CANU GYDA FY ARWR

Mewn rhaglen arbennig o Canu Gyda fy Arwr mae Rhys Meirion yn cael dewis rhai o'i arwyr cerddorol o i gyd-ganu gyda nhw; y gantores Gaeleg Mairi McInness, y cyfansoddwr amryddawn Robat Arwyn, ac i ddathlu eu canmlwyddiant mae côr meibion yng Nghwmbach, y Rhondda yn cael cwmni Rhys fel rhan o'u dathliadau.

Bydd digon o chwerthin, crio a dathlu yn yr awr arbennig hon o ganu a sgwrsio.

Mae cyfres newydd o Canu Gyda Fy Arwr yn dechrau ar Nos Sul, 19 Rhagfyr am 8.00.

PRIODAS PUM MIL 'DOLIG

Mae gan Emma a Trystan briodas arbennig i'w threfnu dros gyfnod yr ŵyl - a hynny am lai na £5,000!

Tybed sut hwyl gaiff ffrindiau a theulu Rhian a Stuart o ardal Tregaron wrth iddyn nhw geisio ychwanegu tamaid o hud y Nadolig at y diwrnod mawr?

Gyda phlasty Nanteos wedi ei addurno'n berffaith ar gyfer priodas aeafol, mae criw Priodas Pum Mil yn addo sawl sypreis i'r pâr hapus, gan gynnwys rôl i Tootsie y ci, potel sôs coch unigryw iawn, a pherfformiad gan Bronwen Lewis.

Priodas Pum Mil 'Dolig, nos Sul 26 Rhagfyr, 9.00

AM DRO SELEBS

Tro pedwar trysor cenedlaethol fydd hi i arwain yn 'Am Dro Selebs', a bydd pwysau ar bob un i ddewis taith sy'n deilwng o ennill mil o bunnau i'w hoff elusen.

Bydd y darlledwr Jason Mohammad yn ein tywys ar hyd y Taf, Gareth Wyn Jones yn troedio uwchben tir fferm y teulu drwy'r Carneddau, Non Parry o'r grŵp pop Eden yn anelu am baradwys Trefdraeth a'r cyflwynydd tywydd Alex Humphreys fydd yn gobeithio am dywydd mwyn yn Sir Fflint.

Tybed fydd y llwybrau'n ddigon llydan, y picnic yn plesio pawb a'r golygfeydd yn ddigon gogoneddus i'r pedwar perfformiwr?

Am Dro Selebs, Nos Lun 27 Rhagfyr, 8.00.

SGWRS DAN Y LLOER: MATTHEW RHYS

Yn y rhifyn Nadolig arbennig yma fe fydd Elin Fflur yn croesi'r Iwerydd i sgwrsio dan y lloer gydag un o sêr mwya' Hollywood - Matthew Rhys.

Mewn rhaglen awr o hyd a gyda goleuadau Efrog Newydd yn gefnlen berffaith fe gawn godi'r llen ar fywyd cyffrous a lliwgar yr actor llwyddiannus o Gymru.

Sgwrs Dan y Lloer: Matthew Rhys , Nos Lun 27 Rhagfyr, 9.00

HUW EDWARDS YN 60

Fel un o brif gyflwynwyr newyddion y BBC, mae'r darlledwr Huw Edwards yn wyneb cyfarwydd i filiynau o bobol ac yn bâr saff o ddwylo yn ystod rhai o ddigwyddiadau hanesyddol mwya'r byd.

Mewn rhaglen arbennig i S4C, dyma gyfle i ddod i adnabod y dyn y tu ôl i'r wyneb cyhoeddus wrth iddo ddathlu ei ben-blwydd yn 60 oed.

Bydd y daith yn mynd â ni o'i gartre yn Llundain yn ôl i Gymru, gan alw yn rhai o'r llefydd sydd agosa' at ei galon, a chawn gipolwg ar beth sydd wedi siapio ei fywyd a'i waith hyd yma.

Huw Edwards yn 60, Nos Fercher 29 Rhagfyr, 9.00

O'R DIWEDD 2021

Cipolwg yn ôl dros flwyddyn arall o fyw dan gysgod Covid, gyda Tudur Owen, Siân Harries a Gareth Gwynn.

Bydd y sioe ddychan, crafog a digri hon yn edrych nôl dros flwyddyn anodd arall drwy ddefnyddio straeon a digwyddiadau mawr gyda chomedi sy'n mynd yn syth at galon rhai o sefydliadau Cymru.

Bydd y sioe yn cynnwys sgetsys doniol, llawn barn a jôcs.

O'r Diwedd 2021, Nos Galan, 31 Rhagfyr, 9.00

CHWARAEON

Unwaith eto, mae chwaraeon yn ganolog i'r amserlen Nadolig.

Ar Ddydd San Steffan, bydd cyfle i fwynhau'r gêm bêl-droed bythgofiadwy rhwng Twrci a Chymru yn Euro 2020, am 5.30yh.

Bydd y gêm darbi gorllewin Cymru, Scarlets v Gweilch, i'w gweld am 5.00yh ar Ddydd Calan, tra bydd y gêm Uwch Gynghrair Grŵp Indigo rhwng Llanelli a RGC i'w gweld am 5.30yh ar ddydd Llun 3 Ionawr.

FFILMIAU

Bydd rhai o glasuron Nadolig ar gael ar S4C Clic, gwasanaeth ar-alw S4C, dros yr ŵyl gan gynnwys Albi a Noa yn Achub yr Iwnifyrs; Anrheg Elin; Ble Mae Cyw a Martha, Jac a Sianco.

Bydd y canlynol yn cael eu darlledu ar S4C dros y Nadolig – Pluen Eira ar brynhawn Dydd Nadolig am 3.00; Cyw a'r Gerddorfa am 9.00 a Donna Direidi: Be Wnei Di? Am 9.50 bore Diwrnod San Steffan

Bydd isdeitlau Saesneg ar gael. Bydd y rhaglenni ar gael ar alw ar S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?