S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

De Affrica v Cymru

27 Mawrth 2008

 Mae S4C wedi cyhoeddi heddiw (Iau, 27 Mawrth) ei bod wedi ennill yr hawliau ecsgliwsif daearol i ddarlledu uchafbwyntiau’r ddau brawf rygbi hollbwysig yn erbyn De Affrica ym mis Mehefin.

Bydd y darlledwr Cymraeg yn dangos uchafbwyntiau'r ddau brawf rhwng deiliaid presennol Cwpan y Byd a Phencampwyr y Chwe Gwlad ar 7 a 14 Mehefin yn ystod yr oriau brig, ychydig oriau yn unig ar ôl i’r gemau orffen.

Bydd arlwy S4C o'r profion o Stadiwm Parc Vodacom, Bloemfontein ar Sadwrn, 7 Mehefin ac o Stadiwm Loftus Versfeld, Pretoria ar Sadwrn, 14 Mehefin ar gael yn rhad ac am ddim ar analog a phob llwyfan digidol yng Nghymru ac ar Sky sianel 134 yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Bydd y timau yn ymladd am Gwpan Tywysog William yn y gyfres brawf hon, tlws a enillwyd yn gyntaf gan y Boks pan faeddon nhw Gymru o 34-12 yn Stadiwm y Mileniwm fis Tachwedd. Mae cryn dipyn wedi newid ers hynny gan fod yr hyfforddwr newydd Warren Gatland wedi trawsnewid y dreigiau o fod yn dîm a fethodd â chyrraedd chwarteri Cwpan y Byd yn dîm a enillodd y Gamp Lawn fisoedd yn ddiweddarach.

Meddai Geraint Rowlands, Golygydd Cynnwys Chwaraeon S4C: "Rydym yn falch iawn ein bod wedi ennill yr hawliau ecsgliwsif daearol i ddarlledu’r ddau brawf rhwng Cymru a De Affrica. Mae'n gyfle gwych i weld enillwyr Cwpan y Byd yn herio pencampwyr Ewrop. Ar ôl yr orfoledd o ennill y Gamp Lawn, fe fydd yna ddiddordeb mawr ymhlith gwylwyr i weld tîm Warren Gatland yn perfformio yn erbyn y gorau yn y byd."

Bydd y cytundeb ar gyfer arlwy S4C yn cael ei gynnig i'r sector cynhyrchu annibynnol trwy gyfrwng proses dendro agored a chystadleuol.

Bydd y cyflwynydd Eleri Siôn, yr hyfforddwr rygbi Rowland Phillips a'r dyfarnwr rygbi Nigel Owens hefyd yn Ne Affrica i gyflwyno sioe rygbi hwyliog fel rhagflas i'r gemau prawf.

diwedd

Nodiadau i olygyddion: Mae S4C yn darlledu gemau rygbi rhyngwladol Cymru, gemau'r Cynghrair Magners, uchafbwyntiau'r Cwpan Heineken, yn ogystal ag uchafbwyntiau rygbi'r byd a chystadleuaeth saith bob ochr yr IRB. Mae pêl-droed Cymru a ralïo'r byd ymhlith y chwaraeon eraill a ddangosir ar y sianel.

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?