S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Drama arobryn a chyfres ddogfen uchelgeisiol ymhlith uchafbwyntiau rhaglenni’r hydref ar S4C

05 Medi 2008

Mae Con Passionate, y gyfres ddrama arobryn am fywydau carwriaethol Côr Meibion Gwili, ac Yr Afon, cyfres ddogfen newydd yn dilyn chwech o brif afonydd y byd, ymhlith uchafbwyntiau rhaglenni tymor yr hydref ar S4C.

Mae’r gantores opera Shân Cothi a Steffan Rhodri, un o actorion y gyfres Gavin and Stacey, yn aelodau o gast Con Passionate, sy’n dychwelyd ar gyfer cyfres olaf ar 26 Hydref. Enillodd y gyfres, a ysgrifennir gan Siwan Jones, wobr Rose d’Or y llynedd.

Bydd Cerys Matthews yn dilyn Afon Mississippi fel rhan o’r gyfres chwe-rhan newydd Yr Afon, a saethwyd ar fformat Manylder Uwch. Bydd Aled Samuel yn crwydro glannau Afon Nîl, tra bod y prifardd a’r prif lenor Mererid Hopwood yn dilyn y Rhein. Bethan Gwanas sy’n darganfod mwy am Afon Yangste, bydd Iolo Williams yn ein cyflwyno i Afon Amazon a chaiff Ifor ap Glyn flas ar fywyd pob dydd ar lannau’r Ganga.

Ymhlith yr uchafbwyntiau eraill mae’r ddrama newydd sbon a leolir yn y Cymoedd, 2 Dŷ a Ni. Mae’r gyfres 13-rhan yn olrhain hynt a helynt Jo a Gwyn Puw sydd yn rhieni a rhieni maeth i lond tŷ o blant. Shelley Rees - Stacey Jones yn Pobol y Cwm - a Dyfrig Morris sy’n chwarae’r prif rannau.

Bydd dwy ffilm deledu newydd, Omlet, addasiad o’r nofel o’r un enw gan Nia Medi, ac Y Rhwyd, gan Caryl Lewis, yn ychwanegu at allbwn drama S4C. Bydd cyfres newydd o’r ddrama boblogaidd ar gyfer pobl ifanc, Rownd a Rownd, yn ogystal â chyfres ddrama ysgafn newydd, ista'n bwl, a leolir mewn tafarn pentref ac sydd â Llion Williams (C’mon Midffîld), Sue Roderick (Pobol y Cwm) a Bryn Fôn ymhlith y cast.

Bydd blwyddyn o raglenni ‘gwyrdd’ S4C yn parhau gyda’r gyfres newydd Cwm Glo Cwm Gwyrdd, sy’n dilyn pedwar o bobl ifanc a’u teuluoedd o Gwm Rhondda a Chwm Cynon wrth iddyn nhw ymdrechu i fyw bywyd mwy llesol i’r amgylchedd.

Bydd Dudley Newbery yn teithio i Ronda, Sbaen ar gyfer cyfres newydd o Casa Dudley. Bydd cogyddion amatur brwd o bob cwr o Gymru yn brwydro yn erbyn ei gilydd i gynhyrchu’r pryd perffaith gan ddefnyddio’r gorau o gynhwysion Sbaen.

Ym maes rhaglenni plant mae’r gyfres antur newydd Herio’r Ddraig yn rhan o’r arlwy. Bob wythnos bydd dau dîm o blant yn ymgymryd â gwahanol sialensiau yn seiliedig ar fytholeg Arthuraidd, wedi eu ffilmio mewn gwahanol henebion ledled Cymru.

Bydd nifer o gyfresi newydd sbon, gan gynnwys ABC, Sam Tân, Bob y Bildar, Y Dywysoges Fach, Y Teulu Mawr ac Oli Dan y Don, yn rhan o wasanaeth meithrin estynedig S4C, Cyw, yr hydref hwn.

Bydd digon o chwaraeon hefyd, gyda darllediadau rygbi, pêl-droed, golff a chwaraeon eithafol ar Sgorio, Sgorio Cymru, Y Clwb Rygbi, Cwpan Heineken, Y Clwb Rygbi Rhyngwladol, Golffio a Chwa!

Bydd sylwebaeth Saesneg ar gael yn ystod gemau byw rygbi a phêl-droed ac ar raglenni uchafbwyntiau pêl-droed drwy’r gwasanaeth botwm coch ar S4C digidol ar Sky.

Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Mae’r arlwy gyffrous yr hydref hwn ar S4C yn adlewyrchu ymroddiad y Sianel i gynhyrchu ystod o wahanol raglenni ar gyfer ei chynulleidfaoedd – o ddrama arobryn i’r gorau ym maes chwaraeon, ffeithiol a rhaglenni plant.”

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?