S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Hwyaden Garedig yn Lansio Llyfrau Cymraeg Newydd

18 Gorffennaf 2008

Mae’r seren S4C boblogaidd, Hana’r hwyaden, yn lansio llyfrau plant Cymraeg newydd sbon yn siop Borders, Yr Ais, Caerdydd, ddydd Sadwrn, 19 Gorffennaf, rhwng 2.00pm-3.00pm.

Bydd Hana, sy’n rhedeg llinell gymorth i anifeiliaid mewn cyfyng gyngor yn y gyfres feithrin animeiddiedig, Holi Hana yn bresennol yn Borders gyda’i mab Francis a Bert yr arth er mwyn hyrwyddo dau lyfr newydd, Y Crwban Bach Swil ac Y Hwyaden Oedd Am Ddysgu Nofio.

Mae’r llyfrau’n seiliedig ar y gyfres, a enillodd wobr Bafta yn gynharach eleni, ac sy’n cael ei darlledu ar wasanaeth meithrin newydd S4C, Cyw. Bydd cyfres newydd sbon yn cael ei darlledu ar Cyw yn yr hydref.

Yn y digwyddiad, bydd cyfle i glywed straeon o'r llyfrau a bydd y plant sy’n mynychu yn derbyn pecynnau arbennig S4C.

Mae’r llyfrau, sy’n costio £4.99, ar gael yn Borders a thrwy Gyngor Llyfrau Cymru. Mae amrywiaeth o lyfrau Saesneg Hana’s Helpline hefyd ar gael.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?