S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

O deuwch ffyddloniaid . . . i gyfansoddi carol!

18 Medi 2008

Er bod cryn amser i fynd eto tan y Nadolig, mae S4C yn galw ar gyfansoddwyr a darpar gyfansoddwyr i fynd i ysbryd yr ŵyl yn gynnar a chystadlu yng Nghystadleuaeth Carol y Nadolig 2008.

Perfformir y garol fuddugol yn y gyngerdd Mil o Leisiau’r Nadolig a noddir gan y Daily Post ac a gynhelir ym Mhafiliwn Rhyngwladol Llangollen ar nos Sul, 14 Rhagfyr. Bydd y gyngerdd hefyd yn cael ei darlledu ar S4C dros gyfnod y Nadolig. Mae’r gystadleuaeth yn dathlu ei degfed pen-blwydd eleni gyda gwobr ariannol o £1,000 yn cael ei chynnig.

Enillwyr y llynedd oedd Elfed Morgan a Lowri Watkin Roberts o Frynrefail gyda’r garol ‘Golau Arall’.

Meddai Rob Nicholls, Golygydd Cynnwys Diwylliant S4C: “Mae’r gyngerdd carolau a’r gystadleuaeth yn rhan ganolog o arlwy S4C dros y Nadolig ac rydym yn edrych ymlaen at dderbyn yr un nifer o garolau o’r safon uchaf ag yr ydym wedi ei dderbyn dros y blynyddoedd blaenorol.”

Mae’r gystadleuaeth yn agored i gyfansoddwyr o bob oed, boed yn unigolion neu yn grwpiau. Fe ddylai’r geiriau a’r gerddoriaeth fod yn wreiddiol a gall fod yn garol Gymraeg neu Saesneg.

Dyddiad cau’r gystadleuaeth yw 26 Medi 2008, ac fe dderbynnir ceisiadau ar gasét, DAT, disg-mini, CD neu lawysgrif (rhaid cael copi o’r geiriau wedi’u teipio). Dylid anfon y carolau at Cyfathrebu, S4C, Parc Tŷ Glas, Llanisien, Caerdydd, CF14 5DU.

Bydd S4C hefyd yn lansio apêl yn y dyfodol i gorau gystadlu am y fraint o ganu yn y cyngerdd.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?