S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn gwrando ar lais y gwylwyr

20 Medi 2010

 Mae trafodaeth yn digwydd ar hyn o bryd ynglŷn â dyfodol S4C. I gyd-fynd â’r drafodaeth hon, mae Awdurdod S4C yn awyddus i dderbyn sylwadau gan unigolion a sefydliadau fydd yn gymorth i baratoi cynlluniau i’r dyfodol.

Yn ystod y broses mae llais y gwylwyr yn bwysig iawn ac mae’r Sianel yn chwilio am eich barn chi am raglenni a gwasanaethau S4C.

Mae pwysigrwydd barn y gwylwyr yn amlwg yn Strategaeth Awdurdod S4C fel sonia’r Cadeirydd John Walter Jones yn Adroddiad Blynyddol 2009.

“Dw i am sicrhau nad oes neb yn teimlo mai sefydliad ynysig yw S4C. Mae gennym fel Awdurdod ddyletswydd i wrando ac i gadw cysylltiad, a byddwn yn manteisio ar bob cyfle i wneud hyn. Partneriaeth unigryw yw S4C, yn cwmpasu'r darlledwr cyhoeddus, y darparwyr rhaglenni a’r gynulleidfa. Rydym angen ein gilydd, ac ar ran yr Awdurdod pwysleisiaf ein hawydd i gadw mewn cysylltiad. Pawb a’i farn, heb os, ac i bob barn ei llafar.”

Mae modd cysylltu ag S4C i leisio eich barn drwy lenwi’r ffurflen ar y wefan –s4c.co.uk/cysylltu – neu ffonio Gwifren Gwylwyr ar 0870 600 4141 (Ni ddylai galwad gostio mwy na 6c y funud o linell BT). Mae croeso ichi gysylltu ag S4C erbyn Dydd Iau, 30 Medi.

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?