S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Pen y daith i feicwyr S4C

20 Medi 2010

  Wedi dros 200 milltir a phedwar diwrnod yn y cyfrwy, ac ambell godwm ar hyd y ffordd, mae’r 13 o weithwyr S4C wedi cyrraedd pen eu taith yn seiclo o Gaernarfon i Gaerdydd.

Maen nhw bellach wedi codi dros £4,000 o bunnoedd er budd elusennau sy’n agos at eu calon, a Chanolfan Canser Felindre. Mae’r ganolfan yn cynnig triniaeth canser i dros hanner cleifion canser Cymru ac yn gefnogaeth hanfodol i deuluoedd cleifion sy’n dioddef.

Dechreuon nhw’r daith faith o swyddfa S4C yn Doc Fictoria, Caernarfon am 9:30 fore Gwener, 17 Medi, gan orffen yn swyddfeydd y Sianel yn Llanisien, Caerdydd am 16:15 brynhawn, Llun 20 Medi.

Meddai Arwyn Rawson-Thomas, Trefnydd Cynllunio S4C, oedd yn gyfrifol am drefnu’r her.

“Roedd yn waith caled, ond yn brofiad bythgofiadwy. Mi rydyn ni wedi cael llawer o hwyl ar hyd y daith a hoffwn ddiolch i bawb am eu cefnogaeth.”

Roedd Wedi 7 wedi ffilmio’r criw yn dechrau’r daith fore Gwener, a gallwch wylio’r rhaglen ar-lein s4c.co.uk/clic. Bu Arwyn hefyd yn sgwrsio gyda Geraint Lloyd ar ei raglen Radio Cymru nos Iau 16 Medi.

Mae’r criw wedi cymryd diwrnodau o wyliau personol er mwyn cwblhau’r dasg, ac mae holl gostau’r daith - y gwestai a’r drafnidiaeth i’r gogledd - wedi ei dalu o’u pocedi eu hunain.

diwedd

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?