S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Darlledwyr Cymraeg mewn prosiect ymchwil uchelgeisiol

16 Medi 2010

  Cyhoeddodd S4C, BBC Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg eu bod nhw am gydweithio ar brosiect uchelgeisiol i ddarganfod mwy am sut y mae siaradwyr Cymraeg yn newid eu ffordd o ddefnyddio’r cyfryngau.

Mi fydd y prosiect yn ymchwilio i’r ffordd mae’r defnydd o’r Gymraeg yn newid ymhlith gwahanol garfannau o’r gynulleidfa a sut fydd y patrymau yma’n debyg o ddatblygu yn y blynyddoedd i ddod.

Bydd yr ymchwil hefyd yn gweld sut mae’r pwysau sydd ar yr iaith Gymraeg yn effeithio ar y ffordd y mae pobl yn defnyddio’r cyfryngau a beth allai ddigwydd yn y dyfodol.

Ac mi fydd yr ymchwil yn ystyried cyfleoedd newydd i annog pobl i ddefnyddio mwy o’r cyfryngau Cymraeg.

Yn ôl Prif Weithredwr S4C, Arwel Ellis Owen, “Mewn hinsawdd heriol, mae hi’n bwysicach nag erioed fod y BBC ac S4C yn cydweithio er mwyn ein cynulleidfaoedd Cymraeg. Dwi’n credu bod modd i’r astudiaeth bwysig yma helpu’r ddau ddarlledwr i ddeall yn well beth ydi anghenion a disgwyliadau ein cynulleidfaoedd.

“Rwy’n croesawu’r astudiaeth amserol yma,” meddai Cyfarwyddwr BBC Cymru, Menna Richards. “Does dim amheuaeth fod y cyfryngau Cymraeg yn wynebu sialensiau mawr wrth i dechnoleg a’r defnydd dyddiol o’r iaith esblygu. Mi fydd yr ymchwil yma’n ein helpu ni i wneud yn siŵr ein bod ni’n parhau i ddarparu gwasanaethau uchelgeisiol a pherthnasol yn y blynyddoedd i ddod.”

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Meri Huws, fod y Bwrdd yn falch o fod yn gweithio gyda BBC Cymru ac S4C ar yr ymchwil yma. “Mae teledu, radio a gwefannau Cymraeg yn rhoi cyd-destun bywiog a chyfoes i’r iaith,” meddai, “ond gyda chynifer o sianeli a gwefannau i ddewis ohonynt yn Saesneg, mae hi'n her i ddarlledwyr Cymraeg gadw eu cynulleidfa a denu cynulleidfaoedd newydd. Bydd yr ymchwil hwn yn rhoi gwell syniad i ddarlledwyr a chynllunwyr iaith o’r hyn sy'n gweithio i’r gynulleidfa, a bydd hyn, gobeithio, yn arwain at wneud cyfryngau Cymraeg eu hiaith yn fwy apelgar i bobl."

Mi fydd yr ymchwil yn cael ei gynnal yn ddiweddarach eleni ac yn debyg o gael ei gwblhau yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?