S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Sioeau S4C yn dod i Ogledd Ceredigion

16 Chwefror 2011

 Bydd S4C yn cynnal deng niwrnod o ddigwyddiadau arbennig yng ngogledd Ceredigion ddiwedd Chwefror a dechrau Mawrth.

Yn eu plith fydd cystadleuaeth flynyddol y canu pop Cymreig Cân i Gymru ym Mhafiliwn Bont, Pontrhydfendigaid nos Sul 6 Mawrth a rowndiau cynderfynol prif gystadleuaeth gorawl Cymru Côr Cymru yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth dros y penwythnos 4-6 Mawrth.

Bydd y digwyddiadau’n dechrau nos Iau 24 Chwefror am 7.30pm gyda blaen-ddangosiad yng Nghanolfan Edward Richard, Ystrad Meurig o un o raglenni Dydd Gŵyl Ddewi S4C Wyneb Glyndŵr, rhaglen sy’n datgelu gwir wyneb Owain Glyndŵr.

Fe fydd yna gwis tafarn, noson gwylwyr a noson i ddysgwyr yr iaith Gymraeg yn yr ardal. Bydd rhaglen yn y gyfres Dechrau Canu Dechrau Canmol, y sioe dalent i’r ifanc Sawl Seren Sy’ ‘Na? a chyngerdd gydag Elin Fflur a’r Band i gyd yn cael eu recordio ym Mhafiliwn Bont.

Yn ystod y deng niwrnod bydd rhai o gymeriadau a chyflwynwyr cyfresi plant S4C Cyw a Stwnsh yn ymweld ag ysgolion yr ardal ac yn helpu i godi arian mewn ocsiwn er budd Ysgol Mynach, Pontarfynach.

Thema’r digwyddiadau yng ngogledd Ceredigion fydd ‘Calon Cenedl’ - teitl prif neges ymgyrch y Sianel ar y sgrin - ymgyrch sy’n pwysleisio’r ffaith fod cymunedau Cymru yn ganolog i raglenni S4C yn 2011.

Yr actor Julian Lewis Jones, cyflwynydd Wyneb Glyndŵr, fydd yn cynnig cipolwg o’r rhaglen ddogfen sy’n defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i ddatgelu wyneb un o arwyr hanesyddol mwyaf Cymru.

Cynhelir y noson i ddysgwyr yn Llety Parc, Aberystwyth nos Lun 28 Chwefror am 7.00pm a’r Noson Wylwyr yng Ngwesty’r Talbot, Tregaron nos Fercher 2 Mawrth am 7.00pm gyda chwis fel rhan o’r noson yn dechrau am 8.30pm. Ar nos Iau 3 Mawrth y cynhelir Dechrau Canu Dechrau Canmol a gofynnir i bawb gyrraedd am 6.30pm. Cynhelir recordiad Sawl Seren Sy’ ‘Na? ddydd Gwener 4 Mawrth am 10.30am a bydd cyngerdd Elin Fflur a’r Band yn cychwyn am 7.00pm nos Wener 4 Mawrth.

Cynhelir yr ocsiwn i god arian i Ysgol Mynach yng Ngwesty’r Hafod, Pontarfynach nos Wener 4 Mawrth am 6.30pm gyda Bili Bom Bom o raglen Pentre Bach yng nghyfres Cyw fel ocsiwnïar.

Fe fydd Cân i Gymru yn cael ei recordio ym Mahfiliwn Bont o 6.45pm ar nos Sul 6 Mawrth tra bydd sesiynau recordio Côr Cymru yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth am 8.00pm nos Wener 4 Mawrth, am 2.00pm a 7.30pm ddydd Sadwrn 5 Mawrth a 1.30pm a 7.00pm ddydd Sul 6 Mawrth.

Bydd mynediad i rai digwyddiadau am ddim ond bydd angen tocynnau i rai eraill. Ceir yr holl wybodaeth yma Calon Cenedl neu oddi wrth Wifren Gwylwyr S4C ar 0870 600 4141 neu drwy e-bost gwifren@s4c.co.uk

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?