S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gêm Stwnsh ar gael ar eich ffôn symudol

09 Mawrth 2011

 Gallwch fwynhau oriau o hwyl yn chwarae gêm newydd Stwnsh – y gwasanaeth i bobl ifanc rhwng 7 a 13 oed – ar eich dyfais symudol drwy lawr lwytho ap newydd sbon heb wario ceiniog.

Mae S4C yn mentro i fyd technoleg i blant unwaith eto yn dilyn llwyddiant ap y gwasanaeth meithrin, Cyw, i gynnwys gêm o wefan Stwnsh – s4c.co.uk/stwnsh.

Byti - y gêm rygbi sy’n gweld y bêl rygbi yn herio peli eraill fel y bêl fâs, y bêl droed a’r bêl fowlio mewn cyfres o sialensiau i gyd-fynd â Phencampwriaeth y Chwe Gwlad - yw’r gêm gyntaf i Stwnsh ryddhau ar ffurf ap.

Gyda’r gêm fawr rhwng Cymru ac Iwerddon yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn, profwch eich sgiliau rygbi chi gyda’r ap arbennig hon.

Hefyd, bydd Stwnsh yn rhyddhau gemau newydd ichi chwarae am ddim yn achlysurol a bydd modd casglu’r gemau yn archif eich ffôn a’u chwarae dro ar ôl tro.

Bydd yr ap, sydd wedi’i gynllunio gan Cube Interactive ar ran Boomerang+ – y cwmni sy’n cynhyrchu darpariaeth Stwnsh i S4C – ar gael am ddim o iTunes i ddyfeisiau symudol Apple iPhone, iPod Touch ac yn gweithio ar iPad. Bydd yr ap hefyd ar gael i’w ddefnyddio ar ffonau Android.

Gallwch hefyd barhau i lawr lwytho ap arbennig Cyw, sy’n cynnwys straeon, caneuon a gemau o fyd lliwgar Cyw. Gallwch lawr lwytho ap Cyw yn syth i’ch ffôn symudol er mwyn cynnig adloniant i’r plant bob adeg o’r dydd.

Meddai Siân Eirian, Pennaeth Gwasanaethau Plant S4C, “Mae cynnig estyniad i wasanaeth teledu ac ar-lein Stwnsh yn dangos fod S4C ar flaen y gad ym myd technoleg i blant a phobl ifanc drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n dilyn llwyddiant ysgubol ap Cyw. Mae dros fil o bobl wedi ei lawr lwytho ers lansio’r dechnoleg newydd ar ddiwedd 2010.”

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?