S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gwahoddiad i wylwyr i leisio barn

15 Ebrill 2011

 Mae gwahoddiad i wylwyr S4C leisio’u barn am y math o raglenni maen nhw’n dymuno eu gwylio, fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus.

Mae’r sianel yn wynebu toriadau ariannol fydd yn effeithio ar ei gwasanaethau o 2012 ymlaen ac mae S4C yn awyddus i ystyried barn y gwylwyr wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Mae modd i wylwyr fynegi barn drwy lenwi ffurflen ar wefan S4C – s4c.co.uk/cysylltu – neu drwy ffonio gwasanaeth Gwifren Gwylwyr S4C ar 0870 6004141.* Mae’n bosib trydaru @s4carlein neu ymuno yn y sgwrs drwy ddefnyddio’r tag #gwylwyr. Y dyddiad cau ar gyfer cynnig sylwadau yw dydd Gwener 29 Ebrill.

Meddai Rheon Tomos, Cadeirydd Awdurdod S4C:

“Ry’n ni wastad yn falch i glywed barn ein gwylwyr, ac wrth i ni gynllunio ar gyfer cyfnod cwbl newydd yn hanes y sianel mae’n bwysicach nag erioed bod pobl yn dweud eu dweud.

“Ochr yn ochr â barn y gwylwyr, ry’n ni’n gwrando ar syniadau creadigol y cynhyrchwyr annibynnol. Ein nod yw cynnig arweiniad a sefydlogrwydd i’r cynhyrchwyr wrth i ni roi sylfaen cadarn yn ei le ar gyfer gwasanaethau S4C - gwasanaethau fydd yn adlewyrchu anghenion ein cynulleidfa.”

Diwedd

*Ni ddylai galwadau i’r Wifren gostio mwy na 6c y funud o linell BT.

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?