S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn lansio Ap Urdd 2012

01 Mehefin 2012

Mae S4C wedi lansio ap newydd ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012.

Mae'r ap 'Urdd 2012' yn darparu'r canlyniadau diweddaraf yn fyw ac yn dilyn yr holl hwyl a'r sbri o'r Maes drwy gyfrwng lluniau, fideos a llawer mwy.

Cwmni Teledu Avanti sydd wedi creu'r ap, a nhw hefyd sy'n gyfrifol am raglenni S4C o'r ŵyl sy'n cael ei chynnal ym Mharc Glynllifon rhwng 4 a 9 Mehefin.

Dywedodd Rhys Bevan, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Avanti, "Drwy ddefnyddio ap Urdd 2012, mae modd i ffrindiau a rhieni, sydd ddim yn gallu bod ar y maes neu wylio'r cystadlu ar y teledu, fod yn rhan o'r profiad a mwynhau holl hwyl yr ŵyl."

Lawr lwythwch ap 'Urdd 2012' yn rhad ac am ddim ar iPhone, iPod Touch, iPad a dyfeisiadau Android.

Gwyliwch y cystadlu, y digwyddiadau a'r gweithgareddau o faes Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012 ar S4C gyda rhaglenni yn y dydd a gyda'r nos rhwng 3 a 9 Mehefin.

Yn cyflwyno mae Nia Roberts, Morgan Jones, Mari Grug, Heledd Cynwal, Trystan Ellis Morris, Lois Cernyw a Tudur Phillips.

O 10 o'r gloch bob bore, bydd rhaglenni byw o'r Maes yn cynnwys sylw i brif ddefodau'r dydd. Gyda'r nos, bydd cyfle i weld uchafbwyntiau'r diwrnod yn ogystal â darllediadau byw o gystadlaethau'r hwyr yn y pafiliwn ar rai nosweithiau.

Yn ogystal â'r rhaglenni teledu, bydd lluniau a fideos ar y wefan – s4c.co.uk/urdd – yn cynnwys y perfformiadau a ddaeth yn gyntaf, ail a thrydydd ym mhob cystadleuaeth.

Mae hefyd modd derbyn canlyniadau'r rhagbrofion a'r llwyfan yn rhad ac am ddim drwy decstio URDD a rhif y gystadleuaeth at 66663.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?