S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gwobr amaethyddiaeth i dîm cynhyrchu Ffermio

25 Mehefin 2012

Mae tîm cynhyrchu'r gyfres amaethyddiaeth a chefn gwlad Ffermio ar S4C wedi ennill gwobr gan Undeb Amaethwyr Cymru am wasanaeth i'r diwydiant amaethyddiaeth yng Nghymru.

Cyflwynwyd y wobr i'r tîm yn ystod cyfarfod flynyddol yr undeb yn Aberystwyth ar ddydd Gwener 22 Mehefin.

Y cwmni teledu Telesgop, o Abertawe, sy'n gyfrifol am gynhyrchu Ffermio. Yn ogystal â rhaglen gylchgrawn wythnosol mae hefyd gwefan gynhwysfawr - www.ffermio.tv - sy'n rhannu gwybodaeth bellach gyda gwylwyr ac yn darparu fforwm ar gyfer ffermwyr a'r diwydiant amaeth.

Dywedodd llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Emyr Jones am dîm Ffermio, "Mae'r rhan fwyaf o'r gweithwyr yn dod o gefndir amaethyddol ac yn byw gyda'r gwylwyr yng nghefn gwlad. Rhaid llongyfarch S4C am ddarparu gwasanaeth fel Ffermio ac am gydnabod pwysigrwydd y diwydiant i Gymru."

Mae'r rhaglen wythnosol, sy'n trin a thrafod y byd amaeth, cefn gwlad a materion gwledig, yn cael ei chyflwyno gan Daloni Metcalfe, Alun Elidyr a Meinir Jones.

Yn y rhaglen nesaf, ar nos Lun 2 Gorffennaf am 8.25pm, bydd Alun yng ngornest gneifio Coleg Llysfasi, bydd Daloni yn cwrdd â myfyriwr y mis, Carwyn Rees, a bydd Meinir yn cwrdd â’r arlunydd Miranda Bowen.

Dywedodd Elin Rhys, Rheolwr Gyfarwyddwr, "Dros y blynyddoedd, rydym wedi datblygu perthynas werthfawr gyda ffermwyr, cynhyrchwyr bwyd, undebau a sefydliadau cefn gwlad ac mae gan dîm Ffermio'r parch mwyaf tuag at y gymuned amaethyddol. Mae'r parch hwnnw yn golygu ein bod ni'n gallu darparu'r gwasanaeth gorau ar gyfer ein gwylwyr.

"Mae'r tîm cyfan yn ddiolchgar iawn i Undeb Amaethwyr Cymru am y clod hwn i Ffermio, ac i Telesgop, ac rydym yn falch o gyfrannu at ddiwydiant sydd mor bwysig i'n heconomi, i'n hiaith a'n diwylliant."

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?