S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

CD o garolau'r enwogion ar werth – er budd tair elusen

17 Rhagfyr 2012

  Mae CD Nadoligaidd y gyfres Carolau Gobaith ar werth nawr i godi arian at dri achos da!

Prynwch hi o'ch siop Gymraeg leol am £8.99, neu lawr lwythwch y caneuon oddi ar safle iTunes. Mae'r elw er budd tair elusen haeddianol – NSPCC, Cymorth Canser Macmillan ac Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae wyth cân Nadoligaidd ar y CD:

1. SANCTAIDD NOS - Tri Tenor Cymru / Shân Cothi

2. CYMER Y NADOLIG I DY GALON - Rhodri Gomer Davies / Alun Rhys Jenkins

3. UN SEREN - Catrin Dafydd / Rhys Meirion

4. DAW Y NADOLIG - Richard Elis / Aled Hall

5. NOSON OER NADOLIG - Malcolm Allen / Rhys Meirion

6. CHWEDL ’DOLIG EFROG NEWYDD - Myfanwy Alexander / Alun Rhys Jenkins

7. CAROL CATRIN - Mari Lovgreen / Aled Hall

8. IESU FABAN MAIR - Mari Lovgreen / Richard Elis / Aled Hall

Dros yr wythnosau diwethaf mae gwylwyr S4C wedi dilyn y sêr - Malcolm Allen, Catrin Dafydd, Mari Lovgreen, Richard Elis, Myfanwy Alexander a Rhodri Gomer Davies – wrth iddyn nhw gael eu tynnu'n llwyr o'u cynefin, gyda cymorth Tri Tenor Cymru, a chanu mewn cyngerdd mawr Nadoligaidd.

Daeth Carolau Gobaith i ben ar y sgrin gyda darllediad o'r gyngerdd, ar nos Sadwrn, 15 Rhagfyr.

Roedd hi hefyd yn gystadleuaeth rhwng y tri tîm – dau seren i bob tenor - i berfformio'r fersiwn orau o'r garol Iesu Faban Mair. Yn dyfarnu roedd panel o feirniaid profiadol – Caryl Parry Jones, Elin Fflur a Cefin Roberts – ac yn fuddugol roedd Aled Hall a'i dîm Mari Lovgreen a Richard Elis. Y nhw, felly, sydd wedi hawlio eu lle ar drac rhif wyth y CD.

Syniad y tenor, Rhys Meirion oedd y gyfres yn wreiddiol, ac yn gynhyrchiad gan gwmni Teledu Apollo.

"Roeddem mor ffodus i gael gwesteion gwych ac fe lwyddom ni i gael cymeriadau a oedd yn fodlon mynd i’r pen dros eu timoedd. Diolch o galon i bob un ohonynt am daflu eu hunain at yr her a’i wneud yn brofiad bythgofiadwy i ni gyd, gan gynnwys, dwi’n siwr, y gwylwyr," meddai Rhys, mewn diolch i'r sêr wnaeth gymryd rhan. "Gobeithio y byddwch yn cael mwynhad o wrando ar y CD. Mwynhewch, a diolch am eich cefnogaeth i’r dair elusen fydd yn elwa. O, a llongyfarchiadau i Aled Hall fel capten y tîm buddugol."

Os wnaethoch chi fethu gwylio'r gyfres, mae Carolau Gobaith ar gael unrhyw bryd ar alw, ar-lein, ar Clic

Gallwch gyfranu at yr elusennau drwy ddilyn y ddolen ar safle Carolau Gobaith ar wefan S4C.

Diwedd

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?