S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn dangos drama Wyddeleg lwyddianus – gydag isdeitlau Cymraeg

19 Ebrill 2013

Bydd drama Wyddeleg sydd wedi ennill nifer o wobrau yn cael ei dangos ar S4C gydag isdeitlau Cymraeg. Fe enillodd y ddrama drosedd Corp + Anam brif wobr yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd yn 2012, sef gwobr Ysbryd yr Ŵyl. Mae'r darllediad ar S4C yn cyd-fynd â chynnal yr ŵyl yn Abertawe eleni – ar 24 i 26 Ebrill, 2013.

Gyda'r teitl Cymraeg Corff + Enaid, bydd y gyfres bedair rhan yn dechrau ar nos Sadwrn 20 Ebrill am 10.00 y nos. Bydd yr ail bennod yn dilyn ar nos Sul, 21 Ebrill, a'r ddwy bennod ola ar y penwythnos canlynol.

Cafodd Corp + Anam ei darlledu yn gyntaf ar y sianel Wyddeleg TG4 yn 2011. Yn ogystal â'r llwyddiant yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd, fe enillodd y gyfres wobr arbennig i raglen yn yr iaith Wyddeleg yn yr Irish Film + Television Awards.

Dywedodd Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Drama S4C, "Mae cyfresi da fel Corp + Anam yn rhai sy'n werth eu rhannu gyda gwylwyr S4C. Mae llwyddiant rhaglenni tebyg o wledydd tramor yn dangos fod y gynulleidfa yn fwy parod nag erioed i wylio rhaglenni o safon gydag isdeitlau."

Darganfod y gwir y tu ôl i'r drosedd, waeth beth yw'r gost. Dyna sy'n ysgogi'r gohebydd troseddau Cathal Mac Iarnáin. Ei stori ef yw Corp + Anam, wrth iddo ymchwilio troseddau sy'n adlewyrchu agweddau tywyll ein cymdeithas.

Cynhyrchydd y gyfres yw Paddy Hayes, o gwmni Magamedia. Mae'n esbonio pam fod y gyfres wedi ennyn sylw'r gwylwyr yn Iwerddon, "Roedd y gyfres yn taro tant am ddau reswm. Yn gyntaf mae'n bortread gonest, di flewyn ar dafod o'r drwg sy'n llechu yn ein cymdeithas gydag elfen o realaeth sydd ddim yn aml yn cael ei weld ar deledu," meddai Paddy sy'n edrych ymlaen at glywed yr ymateb yng Nghymru. "Yn ail, roedd rhai o'r amgylchiadau yn y gyfres wedi eu seilio'n fras ar straeon newyddion diweddar fu'n destun trafod yn Iwerddon. Rwy'n credu bod hynny wedi cael effaith ddiddorol ar y gynulleidfa - wrth wylio'r rhaglenni roeddech chi'n cael eich atgoffa o'r digwyddiadau hynny ac yn sylweddoli y gallan nhw ddigwydd, a'u bod nhw wedi digwydd."

Yn y rhaglen gyntaf, mae Cathal yn ymchwilio i ddamwain sy'n digwydd ym mherfeddion nos. Wrth fynd ar drywydd gwir amgylchiadau'r ddamwain mae Cathal yn dod wyneb yn wyneb â'r teuluoedd sy'n galaru a thrwy hyn yn darganfod y gwir. Diarmuid de Faoite sy'n chwarae'r gohebydd Cathal Mac Iarnáin gyda Maria Doyle Kennedy yn serennu gyferbyn ag ef fel ei wraig, Mairéad.

Corff + Enaid (Corp + Anam)

Nos Sadwrn 20 Ebrill a nos Sul 21 Ebrill 10.00, S4C ac yn parhau'r penwythnos canlynol

Yn Wyddeleg gydag isdeitlau Cymraeg

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?