S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Criw Cyw yng Ngŵyl Hwyl a Halibalŵ Canolfan Cymry Llundain

08 Hydref 2013

Ar ddydd Gwener 11 Hydref a dydd Sadwrn 12 Hydref bydd Rachael Solomon ac Einir Dafydd, dwy o gyflwynwyr Cyw S4C, a'r môr leidr harti Ben Dant yn ymweld â Llundain i gwrdd â rhai o'r plant sy'n mwynhau Gwasanaeth Cyw yno.

Ar y dydd Gwener bydd y tri yn ymweld ag Ysgol Gymraeg Llundain ac yn canu a dawnsio gyda'r plant. Yna, ar y dydd Sadwrn bydd y tri yng ngŵyl Hwyl a Halibalŵ yng Nghanolfan Cymry Llundain.

Dyma'r ail dro i'r Ŵyl gael ei chynnal, gan estyn croeso i gylchoedd meithrin Cwtsh, Dreigiau Bach a Miri Mawr. Bydd Rachael, Einir a Ben Dant yn yr Ŵyl a gynhelir rhwng 10.30am a 12.30pm ac yn canu a dawnsio gyda'r plant ac yn darllen stori i'r rhai bach.

Bydd castell bownsio, stondinau celf a chrefft a chyfle i gael paentio wynebau yn yr Ŵyl hefyd ac mae tâl mynediad o £10 i bob teulu.

Mae'r Ŵyl a gynhaliwyd am y tro cyntaf y llynedd yn mynd o nerth i nerth a bydd gwefan Halibalŵ Llundain yn cael ei lansio ar fore'r ŵyl. Bydd holl elw'r diwrnod yn cael ei rannu rhwng cylchoedd chwarae Llundain er mwyn rhoi cyfle i blant meithrin a'u teuluoedd sy'n byw yn Llundain ddysgu, chwarae a chymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae modd dilyn Gŵyl Hwyl a Halibalŵ ar Twitter a'u hoffi ar Facebook i weld y wybodaeth ddiweddaraf.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?