S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Rhaglen yn bwrw golwg ar fywyd a chyfraniad Yr Arglwydd Roberts

16 Rhagfyr 2013

Yn dilyn marwolaeth Yr Arglwydd Roberts o Gonwy dros y penwythnos, mi fydd S4C yn bwrw golwg ar ei gyfraniad at wleidyddiaeth yng Nghymru a thu hwnt yn y rhaglen Yr Arglwydd Roberts i’w darlledu nos Lun 16 Rhagfyr am 9:30yh.

Bu Wyn Roberts yn Aelod Seneddol dros Gonwy am 27 mlynedd ar ran y Ceidwadwyr ac yn ystod ei gyfnod yn y Swyddfa Gymreig roedd yn gyfrifol am lywio Deddf yr Iaith Gymraeg trwy San Steffan yn 1993.

Yn ogystal â chloriannu ei gyfraniad amlwg i wleidyddiaeth Cymru, fe fydd y rhaglen hefyd yn bwrw goleuni ar agweddau llai cyfarwydd o’i fywyd a’i waith.

Bydd y cyfranwyr yn cynnwys Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones a’r darlledwr Euryn Ogwen Williams.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?