S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyw yn codi’n gynt ar y penwythnosau

27 Chwefror 2014

Mi fydd dydd Gŵyl Dewi 2014 yn ddiwrnod mawr i blant a rhieni Cymru wrth i wasanaeth Cyw S4C ddechrau awr yn gynt bob bore Sadwrn a Sul.

O ddydd Sadwrn 1 Mawrth bydd rhaglenni Cyw ar gyfer plant iau nawr yn dechrau am 6.00 yn lle 7.00. Felly bydd rhaglenni Cyw ymlaen rhwng 6.00 ac 8.00 ar foreau Sadwrn, gyda Stwnsh yn dechrau am 8.00 ac ailddarllediad o raglen TAG i ddilyn. Yna ar foreau Sul bydd rhaglenni Cyw ymlaen rhwng 6.00 a 9.00.

Meddai Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys S4C:

"Mae plant yn codi'n gynnar ac yn mwynhau gwylio'u hoff raglenni ar y teledu peth cynta'r bore. Ers misoedd mae rhieni wedi bod yn holi am y posibilrwydd o gael Cyw i ddechrau yn gynt er mwyn i S4C gystadlu gyda sianeli plant eraill.

Felly mae'n bleser i gynnig Cyw o chwech y bore ar y penwythnos. Gobeithio y bydd yn gyfle i rieni blinedig gael ychydig mwy o gwsg!”

Ym mis Rhagfyr 2013 cyhoeddodd S4C ei bod hefyd am weddnewid y ffordd mae’r Sianel yn dangos hysbysebion.

Yn dilyn nifer o geisiadau gan wylwyr y Sianel penderfynnodd S4C gynnwys llai o hysbysebion yn ystod rhai cyfnodau – gyda dim hysbysebion o gwbl yn ystod rhaglenni plant y Sianel ar wasanaethau Cyw a Stwnsh. Y gobaith yw y bydd hyn yn gwneud y profiad o wylio yn fwy pleserus i blant. Dechreuodd y drefn newydd ar y Sianel ddydd Llun 24 Chwefror.

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?