S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C i ddangos rygbi rhyngwladol ym mis Mehefin

29 Mai 2014

 Bydd S4C yn dod a holl gyffro gemau rhyngwladol rygbi Cymru o Dde Affrica a Seland Newydd ym mis Mehefin – gyda rhaglenni egsgliwsif i deledu daearol.

Gallwch wylio gemau rygbi pencampwriaeth ieuenctid y byd o Seland Newydd, a gemau prawf Cymru yn Ne Affrica , a hynny yn unig ar S4C.

Bydd S4C yn dangos dwy gêm brawf Cymru yn erbyn De Affrica ar 14 Mehefin a 21 Mehefin.

Bydd bechgyn dan 20 Cymru yn mentro i hemisffer y de, i geisio ennill pencampwriaeth ieuenctid y byd.

Mae gan y chwaraewyr ifanc her o’u blaenau, ac maent yn gobeithio maeddu 3 tîm cryf yn y gobaith o gyrraedd y rowndiau nesaf. Y timau fydd Cymru yn eu herio bydd Fiji, Iwerddon a Ffrainc.

Gêm agoriadol Cymru fydd Fiji. Bydd modd gwylio’r gêm yn llawn ar S4C, nos Lun 2 Mehefin.

Yna, nos Wener 6 Mehefin bydd modd gwylio Cymru yn herio’r Gwyddelod yn Auckland, gyda’r crysau cochion yn gobeithio curo eu cefndryd Celtaidd.

Ac yna yng ngêm olaf y rowndiau cyntaf, nos Fawrth 10 Mehefin, bydd Cymru yn wynebu tîm arall o hemisffer y gogledd, Ffrainc. Bydd modd gwylio’r gêm yn llawn ar S4C.

Meddai Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys:

“Mae’n newyddion gwych i ddilynwyr rygbi Cymru bod S4C wedi llwyddo i ddod â’r gorau o rygbi’r haf i’r gynulleidfa. Wrth i’n timau cenedlaethol deithio i ben draw’r byd i herio’r goreuon, fe fydd modd dilyn y cwbl. S4C yw’r unig sianel ar deledu daearol fydd yn darparu’r gwasanaeth yma wrth inni ddymuno pob dymuniad da i’n timau ni yn Ne Affrica, ac yn Seland Newydd.”

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?