S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Y Gwyll yn cipio Gwobr Eryr Aur - Golden Eagle

03 Gorffennaf 2014

Mae cyfres dditectif boblogaidd Y Gwyll/Hinterland wedi derbyn Gwobr Eryr Aur CINE Gwanwyn 2014 - Spring 2014 CINE Golden Eagle Award.

Mae'r gyfres, a ddarlledwyd gyntaf ar S4C yn ystod hydref 2013, wedi ennill y wobr yn y categori Ffuglen Deledu – Drama.

Ffilmiwyd y gyfres, a gynhyrchwyd gan Fiction Factory, yn Gymraeg (Y Gwyll) ac yn Saesneg (Hinterland). Y fersiwn Gymraeg sydd wedi derbyn y Wobr Eryr Aur gan CINE.

Mae Y Gwyll/Hinterland yn gynhyrchiad Fiction Factory mewn cydweithrediad â S4C, All3Media International Ltd, Tinopolis, BBC Cymru Wales a Cronfa Gyd-gynhyrchu S4C.

Mae'r wobr yn bluen arall yn het Y Gwyll/Hinterland yn ôl Comisiynydd Drama S4C, Gwawr Martha Lloyd:

"Mae Y Gwyll/Hinterland wedi bod yn hynod o boblogaidd. Mae'r gyfres eisoes wedi ennill gwobr y Gyfres Ddrama Orau yng Ngŵyl Cyfryngau Celtaidd 2014, ac wedi ei phrynu gan ddeg o ddarlledwyr ar draws y byd gan gynnwys ARD yn yr Almaen a NETFLIX yn Unol Daleithiau America.

"Mae derbyn y wobr hon yn anrhydedd hyfryd wrth i'r cast a'r criw baratoi i ddechrau ffilmio'r ail gyfres hir-ddisgwyliedig yng Ngheredigion ym mis Medi."

Sefydlwyd Gwobr Eryr Aur CINE ym 1957 ac ers hynny mae'r wobr wedi cael ei rhoi i amrywiaeth o dalent, o wneuthurwyr ffilmiau newydd i arloeswyr yn y diwydiant.

Caiff Gwobr Eryr Aur CINE ei rhoi i ddynodi'r gorau o fyd y ffilmiau, teledu a'r cyfryngau digidol.

Mae gan CINE, acronym am Council on International Nontheatrical Events, system feirniadu dwy rownd, sy'n cynnwys pobl broffesiynol o'r diwydiant. Mae hyn yn golygu bod gwobrau CINE yn nodi, nid yn unig 'gwychder cynhyrchiad, ond cydnabyddiaeth eich cyfoedion yn y maes hefyd,'.

Bydd ffilmio ar gyfer yr ail gyfres o Y Gwyll/Hinterland yn dechrau yng Ngheredigion ym mis Medi.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?