S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gŵyl ffilmiau Barcelona yn gwobrwyo Gruff Rhys

05 Tachwedd 2014

Mae ffilm ddogfen gerddorol ddiweddaraf Gruff Rhys, American Interior, wedi dod i'r brig yng Ngwobrau'r Beefeater In-edit Festival 2014. Comisiynwyd y ffilm gan S4C a Ffilm Cymru Wales.

Rhoddwyd y wobr i ffilm ddogfen American Interior am fod y ddogfen gerddorol ryngwladol orau yn y gwobrau a gynhaliwyd am y deuddegfed tro eleni yn Barcelona rhwng 23 Hydref a 2 Tachwedd.

Mae'r ffilm ddogfen, gynhyrchwyd gan gwmni ie ie a'i chyfarwyddo gan Dylan Goch, yn dilyn Gruff Rhys wrth iddo fynd ar daith o Waunfawr, bob cam i America ac ar draws y cyfandir er mwyn dilyn ôl troed perthynas bell iddo o’r 18fed Ganrif, yr anturiaethwr John Evans.

Meddai llefarydd ar ran yr Ŵyl:

"Mae Panel Beirniadu Cystadleuaeth Ryngwladol Gwobrau 12fed Gŵyl Beefeater In-Edit Barcelona yn gwobrwyo American Interior fel y ddogfen gerddorol orau am ei dewrder wrth groesi fformatau, gan gymysgu perfformiadau byw gyda strwythur sinematograffig.

"Mae'n ysbrydoli cerddorion a chyfarwyddwyr ffilm i roi cynnig ar ffyrdd newydd a gwahanol o ddweud straeon."

Prosiect dwyieithog yw American Interior, a darlledwyr fersiwn Gymraeg y ffilm, I Grombil Cyfandir Pell - American Interior ar S4C ym mis Medi eleni.

Meddai Llion Iwan, Comisiynydd y ddogfen ar ran S4C:

"Mae gan Gruff Rhys ddawn arbennig i adrodd stori, ac mae'n llwyddo i gyfuno'r ddawn honno gyda'i ddawn gerddorol yn y ffilm hon er mwyn adrodd hen hen stori, a'i gwneud yn berthnasol i gynulleidfaoedd ar draws y byd heddiw.

"Wrth gyfuno hynny gyda gweledigaeth Dylan Goch, y cyfarwyddwr, cawn ffilm ryfeddol. Llongyfarchiadau mawr i Gruff a phawb arall fy'n gweithio ar y ffilm ar ennill y wobr hon, ac am roi Cymru ar y map unwaith yn rhagor."

Mae pedwar rhan i Brosiect American Interior - llyfr, ap, cd a'r ffilm. Am ragor o wybodaeth ewch i www.american-interior.com.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?