S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Blwyddyn newydd yn llawn drama ar S4C

02 Ionawr 2015

 Fe fydd mwy o amrywiaeth fyth o ddrama ar S4C o fis Ionawr ymlaen wrth i’r sianel lansio amserlen ar ei newydd wedd heddiw (Gwener 2 Ionawr) a fydd yn cynnwys slot drama gyffrous ar nosweithiau Mercher am 8.00pm.

Y gyfres ddrama Lan a Lawr fydd y ddrama gyntaf yn y slot newydd o nos Fercher 7 Ionawr am 8.00pm.

Gyda'r gyfres Gwaith/Cartref yn dychwelyd ar nosweithiau Sul, Pobol y Cwm ymlaen bedair noson yr wythnos a Rownd a Rownd ddwy noson yr wythnos, bydd yna ddewis eang o ddrama ar y sianel dros y gaeaf.

Gan gofio y bydd pennod arbennig newydd o Y Gwyll/Hinterland ar gael ar S4C Clic a’r BBC iPlayer drwy gydol mis Ionawr – gwasanaethau S4C yw’r lle i fod am ddrama o’r safon uchaf.

Mae hen gyfrinachau'n dod â'r de a'r gogledd ynghyd yn y ddrama newydd Lan a Lawr. Bydd yr amryddawn Dewi 'Pws' Morris, Beth Robert a sawl wyneb newydd yn ymddangos yn y gyfres deulu teimladwy a gafaelgar hon a ysgrifennwyd gan Gareth F Williams a’i chynhyrchu gan Boom Cymru.

Nid oes llonydd i'w gael i drigolion Cwmderi gyda Pobol y Cwm (Cynhyrchiad BBC Cymru Wales) yn parhau ar nosweithiau Llun, Mawrth, Iau a Gwener am 8.00pm wrth i Dani ddychwelyd yn ôl i’r cwm yn barod i wynebu Garry yn dilyn holl lanast diwrnod eu priodas a chyflwr iechyd Meic Pierce fwrw cysgod mawr ar bawb sy’n agos ato.

Mae'r dechreuad dramatig i'r flwyddyn yn parhau gyda'r gyfres boblogaidd Gwaith/Cartref (Sul, 11 Ionawr, 9.00pm, Cynhyrchiad Fiction Factory). Gyda'r staff a'r disgyblion yn Ysgol Bro Taf wedi eu symud i adeiladau ysgol arall dros dro, mae hen densiynau'n codi a pherthynas newydd yn blodeuo, ond am ba hyd?

Wrth ddatgelu’r amserlen, dywed Cyfarwyddwr Cynnwys S4C Dafydd Rhys, "Mae drama S4C yn denu cynulleidfaoedd newydd i’r sianel ac yn rhoi cyffro a ffresni i’r amserlen, a bob amser yn creu trafodaeth. Mae gennym dalent ryfeddol ar gael i ni yng Nghymru o flaen a’r tu ôl i’r camera ac rydym yn awyddus i roi’r llwyfan gorau posib i’w doniau nhw yn amserlen 2015.

"Yn ogystal â Lan a Lawr a Gwaith Cartref, fe fydd ein cyfresi sebon Pobol y Cwm a Rownd a Rownd yn parhau’n sylfaen gadarn i’r amserlen y gaeaf hwn gyda digon o straeon gafaelgar.

Ar ben yr holl ddrama sydd ar gael ar S4C ddechrau 2015, fe fydd cyfres ryngwladol newydd yn dilyn rhai o ohebwyr mwyaf profiadol Cymru – bob un ar drywydd stori fydd yn datgelu am straeon pwysig yn ein hanes.

Bydd dau o’r gohebwyr hynny, Jon Gower a John Hardy yn mynd ar drywydd straeon sy’n dangos cysylltiad Cymru â De Corea. Mae’r ddwy raglen yn rhan o gyd gynhyrchiad rhyngwladol sy’n ffrwyth cydweithio rhwng y darlledwyr S4C a JTV yn Ne Corea, Awen Media a Rondo Media a’r cwmni The Bridge, cwmni annibynnol sy’n pontio cynhyrchwyr ym Mhrydain gyda chwmnïau yn Asia.

Fe fydd S4C hefyd yng nghalon holl ferw’r tymor chwaraeon, gan ddarlledu nifer o gemau ecsgliwsif byw ym Mhencampwriaeth Rygbi Dan 20 y Chwe Gwlad, yn ogystal â dangos gemau Cymru yn y Chwe Gwlad a llu o chwaraeon eraill.

Caiff gwylwyr fwynhau tair gêm ryngwladol Dan 20 Cymru yn fyw ac yn ecsgliwsif yn ystod y tymor rhyngwladol rygbi, gan gynnwys Cymru v Lloegr o Barc Eirias, Bae Colwyn nos Sadwrn 7 Chwefror.

Fe fydd yr arlwy chwaraeon hefyd yn cynnwys pêl-droed o Uwch Gynghrair Cymru, uchafbwyntiau La Liga ac ystod o gampau eraill.

Yn y maes adloniant, bydd y cogydd o fri Dudley Newbery yn ôl gyda’r gyfres Pryd o Sêr (cynhyrchiad Rondo Media) a bydd sawl wyneb adnabyddus Cymreig yn cystadlu ar Ynys Môn. Byddan nhw’n perfformio nifer o dasgau i brofi eu sgiliau coginio a'u hamynedd i'r eithaf. Gosodwch y bwrdd ar gyfer nos Sul 11 Ionawr am 8.00pm.

Pa ffordd well o fyrhau'r gaeaf na chwmni cymeriadau lliwgar Caryl Parry-Jones? Bydd cyfle i ddal i fyny gyda'r arweinydd Sioned Grug, y fythol gyfoethog Veloria a'r ferch ysgol afreolus Ffion Carlton-Lewis yn Caryl a'r Lleill (cynhyrchiad Boom Cymru) sy'n dechrau nos Fercher 21 Ionawr am 8.30pm.

DIWEDD

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?