S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gwasg yn noddi digwyddiadau ar S4C

24 Gorffennaf 2017

Mae un o gwmnïau cyhoeddi hynaf Cymru yn noddi rhai o’r digwyddiadau mwyaf ar S4C eleni.

Yn dilyn llwyddiant nawdd cwmni Gomer o’r Eisteddfod Genedlaethol y llynedd, mae’r cwmni nid yn unig wedi cytuno i noddi’r rhaglenni eto eleni, ond am y tro cyntaf am noddi rhaglenni S4C o’r Sioe Frenhinol (24-27 Gorffennaf), yr Eisteddfod Genedlaethol (5-12 Awst) a’r Ŵyl Gerdd Dant (11 Tachwedd).

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasg Gomer, Jonathan Lewis; “Fe berswadiodd llwyddiant ein nawdd o raglenni’r Eisteddfod Genedlaethol y llynedd fod gwerth mawr i gydweithio gydag S4C. Mae noddi’r Sioe Frenhinol yn ein cynorthwyo i gyrraedd cynulleidfa fydd â diddordeb mewn rhai o’n teitlau diweddar, ac mae rhaglenni o’r Ŵyl Gerdd Dant yn cyrraedd yn uniongyrchol rhai o’n cwsmeriaid craidd."

Ar ran S4C fe ddwedodd David Bryant, Pennaeth Datblygu Masnachol; “Rydym yn falch iawn o groesawu Gwasg Gomer yn ôl fel noddwr ein rhaglenni o’r Eisteddfod Genedlaethol eleni ac yn hapus dros ben bod nhw wedi gweld yn dda i ymestyn eu nawdd i gynnwys y Sioe Frenhinol a’r Ŵyl Gerdd Dant.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?